Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol — yr holl ffordd i'r arfordir a'r ynysoedd ar ymylon y deyrnas. |
| 2 |
| Mae'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a'r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi eu cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia. |
| 3 |
| Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/esther/010.mp3
10
10