|
| 1 |
|
| "Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd; rhoddaf ryddid i'm cwyn, llefaraf o chwerwedd fy ysbryd. |
|
| 2 |
|
| Dywedaf wrth Dduw, 'Paid 'm collfarnu i; dangos imi pam y dadleui mi. |
|
| 3 |
|
| Ai da yw i ti orthrymu, a throi heibio lafur dy ddwylo, a ffafrio cyngor y drygionus? |
|
| 4 |
|
| Ai llygaid o gnawd sydd gennyt, neu a weli di fel y gwl y meidrol? |
|
| 5 |
|
| A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn, a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gu373?r? |
|
| 6 |
|
| Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd, ac yn chwilio am fy mhechod, |
|
| 7 |
|
| a thithau'n gwybod nad wyf yn euog, ac nad oes a'm gwared o'th law. |
|
| 8 |
|
| "'Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd, ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha. |
|
| 9 |
|
| Cofia iti fy llunio fel clai, ac eto i'r pridd y'm dychweli. |
|
| 10 |
|
| Oni thywelltaist fi fel llaeth, a'm ceulo fel caws? |
|
| 11 |
|
| Rhoist imi groen a chnawd, a phlethaist fi o esgyrn a gau. |
|
| 12 |
|
| Rhoist imi fywyd a daioni, a diogelodd dy ofal fy einioes. |
|
| 13 |
|
| Ond cuddiaist y rhain yn dy galon; gwn mai dyna dy fwriad. |
|
| 14 |
|
| Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf, ac ni'm rhyddhei o'm camwedd. |
|
| 15 |
|
| Os wyf yn euog, gwae fi, ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen. Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder. |
|
| 16 |
|
| Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela, ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn. |
|
| 17 |
|
| Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf, ac yn cynyddu dy lid ataf, ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn. |
|
| 18 |
|
| "'Pam y dygaist fi allan o'r groth? O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld! |
|
| 19 |
|
| O na fyddwn fel un heb fod, yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd! |
|
| 20 |
|
| Onid prin yw dyddiau fy rhawd? Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd |
|
| 21 |
|
| cyn imi fynd i'r lle na ddychwelaf ohono, i dir tywyllwch a'r fagddu, |
|
| 22 |
|
| tir y tywyllwch dudew, y gwyll a'r fagddu, goleuni fel y tywyllwch.'" |
|
|
|
|