Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Atebodd Soffar y Naamathiad: |
| 2 |
| "Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau? A gyfiawnheir rhywun siaradus? |
| 3 |
| A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi? A gei di watwar heb neb i'th geryddu? |
| 4 |
| Dywedaist, 'Y mae f'athrawiaeth yn bur, a dilychwin wyf yn d'olwg.' |
| 5 |
| O na lefarai Duw, ac agor ei wefusau i siarad thi, |
| 6 |
| a hysbysu iti gyfrinachau doethineb, a bod dwy ochr i ddeall! Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd. |
| 7 |
| A elli di ddarganfod dirgelwch Duw, neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog? |
| 8 |
| Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di? Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti? |
| 9 |
| Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear, ac yn ehangach na'r mr. |
| 10 |
| "Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn, pwy a'i rhwystra? |
| 11 |
| Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus, a phan wl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno? |
| 12 |
| A ddaw'r dwl yn ddeallus asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn? |
| 13 |
| "Os cyfeiri dy feddwl yn iawn, fe estynni dy ddwylo tuag ato; |
| 14 |
| ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt, ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll; |
| 15 |
| yna gelli godi dy olwg heb gywilydd, a byddi'n gadarn a di-ofn. |
| 16 |
| Fe anghofi orthrymder; fel du373?r a giliodd y cofi amdano. |
| 17 |
| Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd, a'r gwyll fel boreddydd. |
| 18 |
| Byddi'n hyderus am fod gobaith, ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel. |
| 19 |
| Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn; a bydd llawer yn ceisio dy ffafr. |
| 20 |
| Palla llygaid y drygionus, diflanna ymwared oddi wrthynt, a'u gobaith yw'r anadl olaf." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/job/011.mp3
42
11