|
| 1 |
|
| Atebodd Job: |
|
| 2 |
|
| "Yn wir, chwi yw'r bobl, a chyda chwi y derfydd doethineb! |
|
| 3 |
|
| Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau, ac nid wyf yn salach na chwi; yn wir, pwy sydd heb wybod hyn? |
|
| 4 |
|
| "Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion, er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb; y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd! |
|
| 5 |
|
| Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd, a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro. |
|
| 6 |
|
| Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw rhai wedi cael Duw dan eu bawd! |
|
| 7 |
|
| "Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti, |
|
| 8 |
|
| neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y mr dy gyfarwyddo. |
|
| 9 |
|
| Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth? |
|
| 10 |
|
| Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol. |
|
| 11 |
|
| Onid yw'r glust yn profi geiriau, fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd? |
|
| 12 |
|
| "Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau? |
|
| 13 |
|
| Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo. |
|
| 14 |
|
| Os dinistria, nid adeiledir: os carchara neb, nid oes rhyddhad. |
|
| 15 |
|
| Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder; a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear. |
|
| 16 |
|
| Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb; ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo. |
|
| 17 |
|
| Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth, a gwawdia farnwyr. |
|
| 18 |
|
| Y mae'n datod gwregys brenhinoedd, ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau. |
|
| 19 |
|
| Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth, a lloria'r rhai sefydledig. |
|
| 20 |
|
| Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt, a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt. |
|
| 21 |
|
| Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion, a gwanhau nerth y cryfion. |
|
| 22 |
|
| Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch, ac yn troi'r fagddu yn oleuni. |
|
| 23 |
|
| Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria; fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith. |
|
| 24 |
|
| Diddyma farn penaethiaid y ddaear, a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd; |
|
| 25 |
|
| ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni; fe wna iddynt simsanu fel meddwon. |
|
|
|
|