|
| 1 |
|
| Dyma Job yn ateb: |
|
| 2 |
|
| “Mae'n amlwg eich bod chi'n bobl mor bwysig! Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd! |
|
| 3 |
|
| Ond mae gen innau feddwl hefyd — dw i ddim gwaeth na chi. Mae pawb yn gwybod y pethau yna! |
|
| 4 |
|
| Ond dw i wedi troi yn destun sbort i'm ffrindiau — ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb. Fi, y dyn da a gonest — yn destun sbort! |
|
| 5 |
|
| Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion — ‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’ |
|
| 6 |
|
| Ond mae lladron yn cael bywyd braf, a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff — ac yn cario eu duw yn eu dwylo! |
|
| 7 |
|
| Ond meddwch chi: ‘Gofyn i'r anifeiliaid — byddan nhw'n dy ddysgu; neu i'r adar — byddan nhw'n dweud wrthot ti. |
|
| 8 |
|
| Neu gofyn i'r ddaear — bydd hi'n dy ddysgu, ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti. |
|
| 9 |
|
| Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod mai Duw sydd wedi gwneud hyn? |
|
| 10 |
|
| Yn ei law e mae bywyd pob creadur ac anadl pob person byw. |
|
| 11 |
|
| Ydy'r glust ddim yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd? |
|
| 12 |
|
| Onid pobl mewn oed sy'n ddoeth, a'r rhai sydd wedi byw'n hir sy'n deall?’ |
|
| 13 |
|
| Duw ydy'r un doeth a chryf; ganddo fe y mae cyngor a deall. |
|
| 14 |
|
| Does dim ailadeiladu beth mae e wedi ei chwalu; na dianc i'r sawl mae e wedi ei garcharu. |
|
| 15 |
|
| Pan mae'n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn; Pan mae e'n eu gollwng yn rhydd, maen nhw'n boddi'r tir. |
|
| 16 |
|
| Duw ydy'r un cryf a medrus; mae'r un sydd ar goll a'r un sy'n camarwain yn atebol iddo. |
|
| 17 |
|
| Mae'n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth, ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid. |
|
| 18 |
|
| Mae'n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw, ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw. |
|
| 19 |
|
| Mae'n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth, ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr. |
|
| 20 |
|
| Mae'n cau cegau'r cynghorwyr ffyddlon, ac yn diddymu cyngor y dynion doeth. |
|
| 21 |
|
| Mae'n dwyn anfri ar y bobl fawr, ac yn diarfogi'r rhyfelwr cryf. |
|
| 22 |
|
| Mae'n datguddio pethau dirgel y tywyllwch, ac yn dod â phethau tywyll i'r golau. |
|
| 23 |
|
| Mae'n gwneud i wledydd dyfu, ac yna'n eu dinistrio; Mae'n estyn ffiniau'r gwledydd ac yna'n eu chwalu. |
|
| 24 |
|
| Mae'n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o'u pwyll, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau; |
|
| 25 |
|
| Yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch, ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon. |
|
|
|
|