|
| 1 |
|
| "Gwelodd fy llygad hyn i gyd; clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall. |
|
| 2 |
|
| Rwyf finnau'n deall gystal chwithau; nid wyf yn ddim salach na chwi. |
|
| 3 |
|
| Eto 'r Hollalluog y dymunaf siarad, a dadlau fy achos gyda Duw; |
|
| 4 |
|
| ond yr ydych chwi'n palu celwydd, a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd. |
|
| 5 |
|
| O na fyddech yn cadw'n ddistaw! Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi. |
|
| 6 |
|
| Gwrandewch yn awr ar fy achos, a rhowch ystyriaeth i'm dadl. |
|
| 7 |
|
| A ddywedwch gelwydd dros Dduw, a thwyll er ei fwyn? |
|
| 8 |
|
| A gymerwch chwi ei blaid, a dadlau dros Dduw? |
|
| 9 |
|
| A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi? A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn? |
|
| 10 |
|
| Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel. |
|
| 11 |
|
| Onid yw ei fawredd yn eich dychryn? Oni ddisgyn ei arswyd arnoch? |
|
| 12 |
|
| Geiriau lludw yw eich gwirebau, a chlai yw eich amddiffyniad. |
|
| 13 |
|
| "Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru, a doed a ddelo arnaf. |
|
| 14 |
|
| Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd, a'm heinioes yn fy nwylo. |
|
| 15 |
|
| Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi; eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen. |
|
| 16 |
|
| A hyn sy'n rhoi hyder i mi, na all neb annuwiol fynd ato. |
|
| 17 |
|
| Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau, a rhowch glust i'm tystiolaeth. |
|
| 18 |
|
| Dyma fi wedi trefnu f'achos; gwn y caf fy nghyfiawnhau. |
|
| 19 |
|
| Pwy sydd i ddadlau mi, i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd? |
|
| 20 |
|
| Gwna ddau beth yn unig imi, ac nid ymguddiaf oddi wrthyt: |
|
| 21 |
|
| symud dy law oddi arnaf, fel na'm dychryner gan dy arswyd; |
|
| 22 |
|
| yna galw arnaf ac atebaf finnau, neu gad i mi siarad a rho di ateb. |
|
| 23 |
|
| Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau? Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod. |
|
| 24 |
|
| Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb, ac yn f'ystyried yn elyn iti? |
|
| 25 |
|
| A ddychryni di ddeilen grin, ac ymlid soflyn sych? |
|
| 26 |
|
| Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn, a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid. |
|
| 27 |
|
| Gosodaist fy nhraed mewn cyffion (yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd), a rhoist nod ar wadnau fy nhraed. |
|
| 28 |
|
| Ond derfydd dyn fel costrel groen, fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn. |
|
|
|
|