|
| 1 |
|
| "Y mae pob un a anwyd o wraig yn fyr ei oes ac yn llawn helbul. |
|
| 2 |
|
| Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo; diflanna fel cysgod ac nid erys. |
|
| 3 |
|
| A roi di sylw i un fel hyn, a'i ddwyn ef i farn gyda thi? |
|
| 4 |
|
| Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb! |
|
| 5 |
|
| Gan fod terfyn i'w ddyddiau, a chan iti rifo'i fisoedd, a gosod iddo ffin nas croesir, |
|
| 6 |
|
| yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd, fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith. |
|
| 7 |
|
| "Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur thyfu. |
|
| 8 |
|
| Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd, |
|
| 9 |
|
| pan synhwyra ddu373?r fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc. |
|
| 10 |
|
| Ond pan fydd rhywun farw, 'n ddi-nerth, a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach. |
|
| 11 |
|
| Derfydd y du373?r o'r llyn; disbyddir a sychir yr afon; |
|
| 12 |
|
| felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd, ni ddeffry tra pery'r nefoedd, ac nis cynhyrfir o'i gwsg. |
|
| 13 |
|
| O na bait yn fy nghuddio yn Sheol, ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio, a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof! |
|
| 14 |
|
| (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?) Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur, hyd nes i'm rhyddhad ddod. |
|
| 15 |
|
| Gelwit arnaf, ac atebwn innau; hiraethit am waith dy ddwylo. |
|
| 16 |
|
| Yna cedwit gyfrif o'm camre, heb wylio fy mhechod; |
|
| 17 |
|
| selid fy nhrosedd mewn cod, a chuddid fy nghamwedd. |
|
| 18 |
|
| "Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro, ac fel y symud y graig o'i lle, |
|
| 19 |
|
| ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd, ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd, felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu. |
|
| 20 |
|
| Parhei i'w orthrymu nes derfydd; newidi ei wedd, a'i ollwng. |
|
| 21 |
|
| Pan anrhydeddir ei blant, ni u373?yr; pan ddarostyngir hwy, ni sylwa. |
|
| 22 |
|
| Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni, a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio." |
|
|
|
|