|
| 1 |
|
| Yna atebodd Eliffas y Temaniad: |
|
| 2 |
|
| "Ai ateb gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth, a llenwi ei fol 'r dwyreinwynt? |
|
| 3 |
|
| A ddadleua ef gair di-fudd, ac geiriau di-les? |
|
| 4 |
|
| Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb, ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw. |
|
| 5 |
|
| Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau, ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi. |
|
| 6 |
|
| Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi, a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn. |
|
| 7 |
|
| "Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb? A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau? |
|
| 8 |
|
| A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw, ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun? |
|
| 9 |
|
| Beth a wyddost ti na wyddom ni? Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau? |
|
| 10 |
|
| Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus, rhai sy'n hu375?n na'th dad. |
|
| 11 |
|
| Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw, a'r gair a ddaw'n ddistaw atat? |
|
| 12 |
|
| Beth a ddaeth dros dy feddwl? Pam y mae dy lygaid yn fflachio |
|
| 13 |
|
| fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw, ac yn arllwys y geiriau hyn? |
|
| 14 |
|
| Sut y gall neb fod yn ddieuog, ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn? |
|
| 15 |
|
| Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd, os nad yw'r nefoedd yn ln yn ei olwg, |
|
| 16 |
|
| beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr, ac yn yfed anghyfiawnder fel du373?r? |
|
| 17 |
|
| "Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf. Mynegaf i ti yr hyn a welais |
|
| 18 |
|
| (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud, ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid; |
|
| 19 |
|
| iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear, ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith): |
|
| 20 |
|
| bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes, trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon. |
|
| 21 |
|
| Su373?n dychryniadau sydd yn ei glustiau, a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant. |
|
| 22 |
|
| Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch; y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf. |
|
| 23 |
|
| Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur; gu373?yr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo. |
|
| 24 |
|
| Brawychir ef gan ofid a chyfyngder; llethir ef fel brenin parod i ymosod. |
|
| 25 |
|
| Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw, ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog, |
|
| 26 |
|
| a rhuthro arno'n haerllug, a both ei darian yn drwchus; |
|
| 27 |
|
| oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster, ac i'w lwynau dewychu bloneg, |
|
| 28 |
|
| fe drig mewn dinasoedd diffaith, mewn tai heb neb yn byw ynddynt, lleoedd sydd ar fin adfeilio. |
|
| 29 |
|
| Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth, ac ni chynydda'i olud yn y tir. |
|
| 30 |
|
| Ni ddianc rhag y tywyllwch. Deifir ei frig gan y fflam, a syrth ei flagur yn y gwynt. |
|
| 31 |
|
| Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun, canys gwagedd fydd ei dl. |
|
| 32 |
|
| Bydd yn gwywo cyn ei amser, ac ni lasa'i gangen. |
|
| 33 |
|
| Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden, a bwrw ei flodau fel olewydden. |
|
| 34 |
|
| Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol, ac fe ysa'r tn drigfannau breibwyr. |
|
| 35 |
|
| Beichiogant ar flinder ac ymddu373?yn drwg, ac ar dwyll yr esgor eu croth." |
|
|
|
|