|
| 1 |
|
| Atebodd Job: |
|
| 2 |
|
| "Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn; cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd. |
|
| 3 |
|
| A oes terfyn i eiriau gwyntog? Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau? |
|
| 4 |
|
| Gallwn innau siarad fel chwithau, pe baech chwi yn fy safle i; gallwn blethu geiriau yn eich erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch. |
|
| 5 |
|
| Gallwn eich calonogi 'm genau, a'ch esmwythu geiriau fy ngwefusau. |
|
| 6 |
|
| "Os llefaraf, ni phaid fy mhoen, ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf. |
|
| 7 |
|
| Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf; anrheithiaist fy holl gydnabod. |
|
| 8 |
|
| Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn; saif fy nheneuwch i'm cyhuddo. |
|
| 9 |
|
| Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb, ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf; llygadrytha fy ngelynion arnaf. |
|
| 10 |
|
| Cegant yn wawdlyd arnaf, trawant fy ngrudd mewn dirmyg, unant yn dyrfa yn f'erbyn. |
|
| 11 |
|
| Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol, a'm taflu i ddwylo'r anwir. |
|
| 12 |
|
| Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi; cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio; gosododd fi yn nod iddo anelu ato. |
|
| 13 |
|
| Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch; trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd, a thywalltwyd fy mustl ar y llawr. |
|
| 14 |
|
| Gwnaeth rwyg ar l rhwyg ynof; rhuthrodd arnaf fel ymladdwr. |
|
| 15 |
|
| "Gwnais sachliain am fy nghroen, a chuddiais fy nghorun yn y llwch. |
|
| 16 |
|
| Cochodd fy wyneb gan ddagrau, daeth dwch ar fy amrannau, |
|
| 17 |
|
| er nad oes trais ar fy nwylo, ac er bod fy ngweddi'n ddilys. |
|
| 18 |
|
| "O ddaear, na chuddia fy ngwaed, ac na fydded gorffwys i'm cri. |
|
| 19 |
|
| Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst, ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof. |
|
| 20 |
|
| Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio, difera fy llygad ddagrau gerbron Duw, |
|
| 21 |
|
| fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw, fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog. |
|
| 22 |
|
| Ychydig flynyddoedd sydd i ddod cyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno. |
|
|
|
|