Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| "Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau; beddrod fydd fy rhan. |
| 2 |
| Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas; pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio. |
| 3 |
| "Gosod dy hun yn feichiau drosof; pwy arall a rydd wystl ar fy rhan? |
| 4 |
| Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall, ni fydd i ti eu dyrchafu. |
| 5 |
| Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion, bydd llygaid ei blant yn pylu. |
| 6 |
| "Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl; yr wyf yn un y maent yn poeri arno. |
| 7 |
| Pylodd fy llygaid o achos gofid; aeth fy nghorff i gyd fel cysgod. |
| 8 |
| Synna'r cyfiawn at y fath beth, a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol. |
| 9 |
| Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd, a bydd y gln ei ddwylo yn ychwanegu nerth. |
| 10 |
| Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig, eto ni chawn neb doeth yn eich plith. |
| 11 |
| "Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcanion a dyhead fy nghalon. |
| 12 |
| Gwnnt y nos yn ddydd dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch. |
| 13 |
| Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref; cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch; |
| 14 |
| dywedaf wrth y pwll, 'Ti yw fy nhad', ac wrth lyngyr, 'Fy mam a'm chwaer'. |
| 15 |
| Ble, felly, y mae fy ngobaith? A phwy a wl obaith imi? |
| 16 |
| Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol? Onid awn i gyd i'r llwch?" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/job/017.mp3
42
17