Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dw i wedi torri fy nghalon, mae fy nyddiau'n diffodd; dim ond y bedd sydd o'm blaen. |
| 2 |
| Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio, mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio. |
| 3 |
| Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i! Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan? |
| 4 |
| Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall, felly fyddan nhw ddim yn llwyddo. |
| 5 |
| Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiau tra mae ei blant ei hun yn llwgu. |
| 6 |
| Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl; maen nhw'n poeri yn fy wyneb. |
| 7 |
| Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid, a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod. |
| 8 |
| Mae pobl dda yn methu credu'r peth, a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol. |
| 9 |
| Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur, a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth. |
| 10 |
| Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto! Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi! |
| 11 |
| Mae fy mywyd ar ben, a'm cynlluniau wedi eu chwalu — pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud. |
| 12 |
| Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd! ‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll! |
| 13 |
| Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd, a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch; |
| 14 |
| Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ — |
| 15 |
| Felly, ble mae fy ngobaith i? Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi? |
| 16 |
| Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth? Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/job/017.mp3
42
17