|
| 1 |
|
| Atebodd Job: |
|
| 2 |
|
| "Am ba hyd y blinwch fi, a'm dryllio geiriau? |
|
| 3 |
|
| Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith, ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni. |
|
| 4 |
|
| Os yw'n wir imi gyfeiliorni, onid arnaf fi fy hun y mae'r bai? |
|
| 5 |
|
| Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi, ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth, |
|
| 6 |
|
| ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam mi, ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch. |
|
| 7 |
|
| Os gwaeddaf, 'Trais', ni chaf ateb; os ceisiaf help, ni chaf farn deg. |
|
| 8 |
|
| Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc, a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen. |
|
| 9 |
|
| Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf, a symudodd y goron oddi ar fy mhen. |
|
| 10 |
|
| Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf; diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden. |
|
| 11 |
|
| Enynnodd ei lid yn f'erbyn, ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion. |
|
| 12 |
|
| Daeth ei fyddinoedd ynghyd; gosodasant sarn hyd ataf, ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell. |
|
| 13 |
|
| "Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf, ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr. |
|
| 14 |
|
| Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod, ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision. |
|
| 15 |
|
| Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf; estron wyf yn eu golwg. |
|
| 16 |
|
| Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb, er i mi erfyn yn daer arno. |
|
| 17 |
|
| Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig, ac yn ddrewdod i'm plant fy hun. |
|
| 18 |
|
| Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos; pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf. |
|
| 19 |
|
| Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf; trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn. |
|
| 20 |
|
| Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn, a dihengais chroen fy nannedd. |
|
| 21 |
|
| "Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion, oherwydd cyffyrddodd llaw Duw mi. |
|
| 22 |
|
| Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw? Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd? |
|
| 23 |
|
| O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu! O na chofnodid hwy mewn llyfr, |
|
| 24 |
|
| wedi eu hysgrifennu phin haearn a phlwm, a'u naddu ar garreg am byth! |
|
| 25 |
|
| Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw, ac y saif o'm plaid yn y diwedd; |
|
| 26 |
|
| ac wedi i'm croen ddifa fel hyn, eto o'm cnawd caf weld Duw. |
|
| 27 |
|
| Fe'i gwelaf ef o'm plaid; ie, fy llygaid fy hun a'i gwl, ac nid yw'n ddieithr. Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn. |
|
| 28 |
|
| "Os dywedwch, 'Y fath erlid a fydd arno, gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,' |
|
| 29 |
|
| yna arswydwch rhag y cleddyf, oherwydd daw cynddaredd chosb y cleddyf, ac yna y cewch wybod fod barn." |
|
|
|
|