|
| 1 |
|
| Dyma Job yn ateb: |
|
| 2 |
|
| “Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio, a'm dryllio gyda'ch areithio? |
|
| 3 |
|
| Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro, ac yn fy hambygio yn gwbl haerllug. |
|
| 4 |
|
| A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai, dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn! |
|
| 5 |
|
| Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi, a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt! |
|
| 6 |
|
| Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi; mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn. |
|
| 7 |
|
| Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb; gweiddi am help, ond does dim tegwch. |
|
| 8 |
|
| Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc! Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll. |
|
| 9 |
|
| Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i, a thynnu'r goron oddi ar fy mhen. |
|
| 10 |
|
| Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr — mae hi ar ben arna i! Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio. |
|
| 11 |
|
| Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi, ac yn fy nhrin fel un o'i elynion. |
|
| 12 |
|
| Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd; wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyn a gwersylla o gwmpas fy mhabell. |
|
| 13 |
|
| Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw; dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod. |
|
| 14 |
|
| Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i, a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i. |
|
| 15 |
|
| Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn — fel petawn i'n rhywun o wlad arall. |
|
| 16 |
|
| Dw i'n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb, er fy mod yn crefu arno i ddod. |
|
| 17 |
|
| Mae fy anadl yn atgas i'm gwraig; a dw i'n drewi'n ffiaidd i'm teulu. |
|
| 18 |
|
| Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort arna i; pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio. |
|
| 19 |
|
| Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio; a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn. |
|
| 20 |
|
| Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrn a dw i'n dal yma o drwch blewyn! |
|
| 21 |
|
| Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau! Mae Duw wedi fy nharo i! |
|
| 22 |
|
| Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw? Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau? |
|
| 23 |
|
| O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr, a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl; |
|
| 24 |
|
| eu naddu ar graig gyda chŷn haearn, a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth! |
|
| 25 |
|
| Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw, ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan, |
|
| 26 |
|
| hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa. Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw — dyna dw i eisiau, |
|
| 27 |
|
| ei weld drosof fy hun; i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall: Dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim. |
|
| 28 |
|
| Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’ ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’ |
|
| 29 |
|
| dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain — mae eich dicter chi'n haeddu ei gosbi gan y cleddyf! Cofiwch fod yna farn i ddod!” |
|
|
|
|