|
| 1 |
|
| Yna atebodd Soffar y Naamathiad: |
|
| 2 |
|
| "Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb; am hynny atebaf ar frys. |
|
| 3 |
|
| Clywais gerydd sy'n fy nifro; y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb. |
|
| 4 |
|
| Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau, er pan osodwyd pobl ar y ddaear, |
|
| 5 |
|
| byr yw gorfoledd y drygionus, ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol. |
|
| 6 |
|
| Er i'w falchder esgyn i'r uchelder, ac i'w ben gyffwrdd 'r cymylau, |
|
| 7 |
|
| eto derfydd am byth fel ei dom ei hun, a dywed y rhai a'i gwelodd, 'Ple mae ef?' |
|
| 8 |
|
| Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod; fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos. |
|
| 9 |
|
| Y llygad a'i gwelodd, ni wl mohono mwy, ac nid edrych arno yn ei le. |
|
| 10 |
|
| Cais ei blant ffafr y tlawd, a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth. |
|
| 11 |
|
| Y mae ei esgyrn sy'n llawn egni yn gorwedd gydag ef yn y llwch. |
|
| 12 |
|
| "Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau, a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod, |
|
| 13 |
|
| ac yn anfodlon ei ollwng, ond yn ei ddal dan daflod ei enau, |
|
| 14 |
|
| eto y mae ei fwyd yn ei gylla yn troi'n wenwyn asb iddo. |
|
| 15 |
|
| Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu; bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol. |
|
| 16 |
|
| Sugna wenwyn yr asb, ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber. |
|
| 17 |
|
| Ni chaiff weld ffrydiau o olew, nac afonydd o fl a llaeth. |
|
| 18 |
|
| Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno; er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau. |
|
| 19 |
|
| Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd; cipiodd du375? nas adeiladodd. |
|
| 20 |
|
| Ni u373?yr sut i dawelu ei chwant, ac ni ddianc dim rhag ei wanc. |
|
| 21 |
|
| Nid oes gweddill iddo'i fwyta, ac felly nid oes parhad i'w ffyniant. |
|
| 22 |
|
| Wedi digoni ei chwant, 'n gyfyng arno; daw holl rym gofid arno. |
|
| 23 |
|
| Pan fydd ar fedr llenwi ei fol, gyrrir arno angerdd llid, a'i dywallt i lawr i'w berfedd. |
|
| 24 |
|
| "Fe ffy rhag arfau haearn, ond fe'i trywenir gan y saeth bres. |
|
| 25 |
|
| Tynnir hi allan o'i gorff, y blaen gloyw allan o'i fustl; daw dychrynfeydd arno. |
|
| 26 |
|
| Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau; ysir ef gan dn nad oes raid ei chwythu; difethir yr hyn a adawyd yn ei babell. |
|
| 27 |
|
| Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd, a chyfyd y ddaear yn ei erbyn. |
|
| 28 |
|
| Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei du375?, a llifogydd, yn nydd ei lid. |
|
| 29 |
|
| Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw, a'r etifeddiaeth a osododd iddo." |
|
|
|
|