|
| 1 |
|
| Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, |
|
| 2 |
|
| Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf. |
|
| 3 |
|
| Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb. |
|
| 4 |
|
| Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear, |
|
| 5 |
|
| Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr? |
|
| 6 |
|
| Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i'r nefoedd, a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd y cymylau; |
|
| 7 |
|
| Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe? |
|
| 8 |
|
| Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos. |
|
| 9 |
|
| Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono. |
|
| 10 |
|
| Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt. |
|
| 11 |
|
| Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd. |
|
| 12 |
|
| Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod; |
|
| 13 |
|
| Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau: |
|
| 14 |
|
| Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o'i fewn ef. |
|
| 15 |
|
| Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: DUW a'i tyn allan o'i fol ef. |
|
| 16 |
|
| Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef. |
|
| 17 |
|
| Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn. |
|
| 18 |
|
| Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono. |
|
| 19 |
|
| Am iddo ddryllio, a gado'r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd; |
|
| 20 |
|
| Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o'r hyn a ddymunodd. |
|
| 21 |
|
| Ni bydd gweddill o'i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef. |
|
| 22 |
|
| Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno. |
|
| 23 |
|
| Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, DUW a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a'i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd. |
|
| 24 |
|
| Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a'r bwa dur a'i trywana ef. |
|
| 25 |
|
| Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corff, a gloywlafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno. |
|
| 26 |
|
| Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a'i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir. |
|
| 27 |
|
| Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a'r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef. |
|
| 28 |
|
| Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef. |
|
| 29 |
|
| Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a'r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW. |
|
|
|
|