|
| 1 |
|
| Atebodd Job: |
|
| 2 |
|
| "Gwrandewch eto ar fy ngeiriau; felly y rhowch gysur imi. |
|
| 3 |
|
| Goddefwch i mi lefaru, ac wedi imi lefaru, cewch watwar. |
|
| 4 |
|
| Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun? a pham na chaf fod yn ddiamynedd? |
|
| 5 |
|
| Edrychwch arnaf, a synnwch, a rhowch eich llaw ar eich genau. |
|
| 6 |
|
| Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo, a daw cryndod i'm cnawd. |
|
| 7 |
|
| "Pam y caiff yr annuwiol fyw, a heneiddio'n gadarnach eu nerth? |
|
| 8 |
|
| Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas, a'u teulu yn eu hymyl. |
|
| 9 |
|
| Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn, ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt. |
|
| 10 |
|
| Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth, a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu. |
|
| 11 |
|
| Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid, a dawnsia'u plant yn hapus. |
|
| 12 |
|
| Canant gyda'r dympan a'r delyn, a byddant lawen wrth su373?n y pibau. |
|
| 13 |
|
| Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd, a disgynnant i Sheol mewn heddwch. |
|
| 14 |
|
| Dywedant wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym; ni fynnwn wybod dy ffyrdd. |
|
| 15 |
|
| Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu, a pha fantais sydd inni os gweddwn arno?' |
|
| 16 |
|
| "Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant? Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw. |
|
| 17 |
|
| "Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol, ac y daw eu dinistr arnynt hwy, ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid? |
|
| 18 |
|
| A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt, neu fel us a ddygir ymaith gan y storm? |
|
| 19 |
|
| A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant? Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng. |
|
| 20 |
|
| Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr, ac yfed o lid yr Hollalluog. |
|
| 21 |
|
| Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei l, pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod? |
|
| 22 |
|
| "A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw? Onid ef sy'n barnu'r beilchion? |
|
| 23 |
|
| "Bydd un farw yn ei lwyddiant, mewn llonyddwch a thawelwch, |
|
| 24 |
|
| ei lwynau yn llawn braster, a mr ei esgyrn yn iraidd. |
|
| 25 |
|
| Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd, heb brofi daioni. |
|
| 26 |
|
| Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd, a'r pryfed yn amdo drostynt. |
|
| 27 |
|
| "Yn awr gwn eich meddyliau, a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu; |
|
| 28 |
|
| oherwydd dywedwch, 'Ble'r aeth tu375?'r pendefig? a phle mae trigfannau'r annuwiol?' |
|
| 29 |
|
| Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd? Onid ydych yn adnabod yr arwyddion, |
|
| 30 |
|
| yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr, ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint? |
|
| 31 |
|
| Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb? Pwy a dl yn l iddo am yr hyn a wnaeth? |
|
| 32 |
|
| Pan ddygir ef i'r bedd, cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod. |
|
| 33 |
|
| Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno; bydd gorymdaith yn dilyn ar ei l, a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen. |
|
| 34 |
|
| Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi? Nid oes ond twyll yn eich atebion." |
|
|
|
|