|
| 1 |
|
| Yna atebodd Eliffas y Temaniad: |
|
| 2 |
|
| "A yw unrhyw un o werth i Dduw? Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth? |
|
| 3 |
|
| A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn, neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir? |
|
| 4 |
|
| Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu, ac yn dy ddwyn i farn? |
|
| 5 |
|
| Onid yw dy ddrygioni'n fawr, a'th gamwedd yn ddiderfyn? |
|
| 6 |
|
| Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos, a dygi ymaith ddillad y tlawd. |
|
| 7 |
|
| Ni roddi ddu373?r i'r lluddedig i'w yfed, a gwrthodi fara i'r newynog. |
|
| 8 |
|
| Y cryf sy'n meddiannu'r tir, a'r ffefryn a drig ynddo. |
|
| 9 |
|
| Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw, ac ysigi freichiau'r amddifad. |
|
| 10 |
|
| Am hyn y mae maglau o'th gwmpas, a daw ofn disymwth i'th lethu, |
|
| 11 |
|
| a thywyllwch fel na elli weld, a bydd dyfroedd yn dy orchuddio. |
|
| 12 |
|
| "Onid yw Duw yn uchder y nefoedd yn edrych i lawr ar y sr sy mor uchel? |
|
| 13 |
|
| Felly dywedi, 'Beth a u373?yr Duw? A all ef farnu trwy'r tywyllwch? |
|
| 14 |
|
| Cymylau na wl trwyddynt sy'n ei guddio, ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.' |
|
| 15 |
|
| A gedwi di at yr hen ffordd y rhodiodd y drygionus ynddi? |
|
| 16 |
|
| Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd, pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon. |
|
| 17 |
|
| Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym'. Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy? |
|
| 18 |
|
| Er iddo lenwi eu tai daioni, pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho. |
|
| 19 |
|
| Gwl y cyfiawn hyn, a llawenha; a gwatwerir hwy gan y dieuog. |
|
| 20 |
|
| Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf, ac ysodd y tn eu llawnder. |
|
| 21 |
|
| "Cytuna ag ef, a chei lwyddiant; trwy hyn y daw daioni i ti. |
|
| 22 |
|
| Derbyn gyfarwyddyd o'i enau, a chadw ei eiriau yn dy galon. |
|
| 23 |
|
| Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd, a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell, |
|
| 24 |
|
| os ystyri aur fel pridd, aur Offir fel cerrig y nentydd, |
|
| 25 |
|
| yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur. |
|
| 26 |
|
| Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog, a dyrchafu dy wyneb at Dduw. |
|
| 27 |
|
| Cei weddo arno, ac fe'th wrendy, a byddi'n cyflawni dy addunedau. |
|
| 28 |
|
| Pan wnei gynllun, fe lwydda iti, a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd. |
|
| 29 |
|
| Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch; yr isel ei fryd a wareda ef. |
|
| 30 |
|
| Fe achub ef y dieuog; achubir ef am fod ei ddwylo'n ln." |
|
|
|
|