Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Atebodd Job: |
| 2 |
| "Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid. |
| 3 |
| O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan! |
| 4 |
| Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau dadleuon. |
| 5 |
| Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf. |
| 6 |
| Ai gyda'i holl nerth y dadleuai mi? Na, ond fe roddai sylw imi. |
| 7 |
| Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr. |
| 8 |
| "Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef. |
| 9 |
| Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i'r de, nis gwelaf. |
| 10 |
| Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur. |
| 11 |
| Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro. |
| 12 |
| Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes. |
| 13 |
| Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna. |
| 14 |
| Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo. |
| 15 |
| Am hyn yr arswydaf rhagddo; pan ystyriaf, fe'i hofnaf. |
| 16 |
| Duw sy'n gwanychu fy nghalon; yr Hollalluog sy'n fy nychryn; |
| 17 |
| nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf, na'r fagddu'n fy nghuddio. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/job/023.mp3
42
23