|
| 1 |
|
| "Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog, ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod. |
|
| 2 |
|
| Y mae'r annuwiol yn symud terfynau, ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio. |
|
| 3 |
|
| Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd, a thywysant ymaith ych y weddw. |
|
| 4 |
|
| Gwthiant y tlawd o'r ffordd, a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio. |
|
| 5 |
|
| nt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch; chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant. |
|
| 6 |
|
| Medant faes nad yw'n eiddo iddynt, a lloffant winllan yr anghyfiawn. |
|
| 7 |
|
| Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad, heb gysgod rhag yr oerni. |
|
| 8 |
|
| Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd; am eu bod heb loches, ymwthiant at graig. |
|
| 9 |
|
| "Tynnir yr amddifad oddi ar y fron, a chymryd plentyn y tlawd yn wystl. |
|
| 10 |
|
| "Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad, a newynant wrth gasglu ysgubau. |
|
| 11 |
|
| Gwasgant yr olew rhwng y meini; sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig. |
|
| 12 |
|
| o'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw, ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth; ond ni rydd Duw sylw i'w cri. |
|
| 13 |
|
| "Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni, y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau. |
|
| 14 |
|
| Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofrudd i ladd yr anghenus a'r tlawd. Yn y nos y gweithia'r lleidr; y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch. |
|
| 15 |
|
| Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos, gan ddweud, 'Nid oes neb yn fy ngweld', ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb. |
|
| 16 |
|
| Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd y rhain na wyddant beth yw goleuni. |
|
| 17 |
|
| Y mae'r bore yr un fath 'r fagddu iddynt; eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu. |
|
| 18 |
|
| "Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt; melltithiwyd eu cyfran yn y tir; ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd. |
|
| 19 |
|
| Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar l eira, felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd. |
|
| 20 |
|
| Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn, ac ni chofir hwy mwyach; torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden. |
|
| 21 |
|
| Drygant yr un na ddygodd blant, ac ni wnnt dda i'r weddw. |
|
| 22 |
|
| "Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth, a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes. |
|
| 23 |
|
| Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy; eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd. |
|
| 24 |
|
| Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant; gwywant a chiliant fel hocys; gwywant fel brig y dywysen. |
|
| 25 |
|
| Os nad felly y mae, pwy all fy ngwrthbrofi a gwneud fy ngeiriau'n ddim?" |
|
|
|
|