×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Job 26

1
Yna atebodd Job:
2
"O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym, a chynnal braich y di-nerth,
3
a rhoi cyngor i'r diddeall, a mynegi digonedd o wir ddoethineb!
4
I bwy yr oeddit yn traethu geiriau, a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?
5
Cryna'r cysgodion yn y dyfnder, a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
6
Y mae Sheol yn noeth ger ei fron, ac nid oes gorchudd dros Abadon.
7
Taena'r gogledd ar y gwagle, a gesyd y ddaear ar ddim.
8
Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau, ac ni rwygir y cwmwl odanynt.
9
Taena orchudd dros wyneb y lloer, a thyn ei gwmwl drosto.
10
Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd, yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.
11
Sigla colofnau'r nefoedd, a dychrynant pan gerydda.
12
Tawelodd y mr 'i nerth, a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.
13
Cliriodd y nefoedd 'i wynt; trywanodd ei law y sarff wibiog.
14
Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd; prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth. Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?"
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau