|
| 1 |
|
| Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud: |
|
| 2 |
|
| “Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg! Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw! |
|
| 3 |
|
| Tra mae bywyd yn dal ynof i, ac anadl Duw yn fy ffroenau, |
|
| 4 |
|
| wna i byth ddweud gair o gelwydd, na siarad yn dwyllodrus. |
|
| 5 |
|
| Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn! Bydda i'n onest hyd fy medd — |
|
| 6 |
|
| Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn; mae fy nghydwybod i'n glir! |
|
| 7 |
|
| Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg; yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn. |
|
| 8 |
|
| Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw, a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno? |
|
| 9 |
|
| Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddi pan fydd mewn trafferthion? |
|
| 10 |
|
| Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth? Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid? |
|
| 11 |
|
| Dysgaf i i chi am nerth Duw, heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth. |
|
| 12 |
|
| Dych chi wedi gweld y peth eich hunain, felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens? |
|
| 13 |
|
| Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw, a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth: |
|
| 14 |
|
| Er iddo gael llawer o blant — cânt eu taro â'r cleddyf; fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd. |
|
| 15 |
|
| Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla, a fydd dim amser i'r gweddwon alaru. |
|
| 16 |
|
| Er casglu pentwr o arian fel pridd, a thomen o ddillad fel baw — |
|
| 17 |
|
| gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo, a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian. |
|
| 18 |
|
| Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn, neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu. |
|
| 19 |
|
| Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf; pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd. |
|
| 20 |
|
| Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif, a'r storm yn ei gipio yn y nos. |
|
| 21 |
|
| Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd, a'i ysgubo i ffwrdd o'i le; |
|
| 22 |
|
| mae'n ei daro'n ddidrugaredd wrth iddo drïo'i orau i ddianc o'i afael; |
|
| 23 |
|
| mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd, a chwibanu wrth ei yrru o'i le. |
|
|
|
|