|
| 1 |
|
| Y mae gwythen i arian, a gwely i'r aur a burir. |
|
| 2 |
|
| Tynnir yr haearn o'r ddaear, a thoddir y garreg yn gopr. |
|
| 3 |
|
| Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch, a chwilio hyd yr eithaf am y mwyn yn y tywyllwch dudew. |
|
| 4 |
|
| Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb; fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr. Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl, gan siglo'n l ac ymlaen. |
|
| 5 |
|
| Ceir bwyd o'r ddaear, eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dn. |
|
| 6 |
|
| Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir, a llwch aur sydd ynddi. |
|
| 7 |
|
| Y mae llwybr na u373?yr hebog amdano, ac nas gwelwyd gan lygad barcud, |
|
| 8 |
|
| ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar, ac na theithiodd y llew arno. |
|
| 9 |
|
| Estyn dyn ei law am y gallestr, a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl. |
|
| 10 |
|
| Egyr dwnelau yn y creigiau, a gwl ei lygaid bopeth gwerthfawr. |
|
| 11 |
|
| Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd, a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt. |
|
| 12 |
|
| Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall? |
|
| 13 |
|
| Ni u373?yr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw. |
|
| 14 |
|
| Dywed y dyfnder, "Nid yw gyda mi"; dywed y mr yntau, "Nid yw ynof fi." |
|
| 15 |
|
| Ni ellir rhoi aur yn dl amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian. |
|
| 16 |
|
| Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir, nac ychwaith 'r onyx gwerthfawr na'r saffir. |
|
| 17 |
|
| Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial, na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur. |
|
| 18 |
|
| Ni bydd sn am gwrel a grisial; y mae meddu doethineb yn well na gemau. |
|
| 19 |
|
| Ni ellir cymharu ei gwerth 'r topas o Ethiopia, ac nid ag aur coeth y prisir hi. |
|
| 20 |
|
| O ble y daw doethineb? a phle mae trigfan deall? |
|
| 21 |
|
| Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw, a hefyd oddi wrth adar y nefoedd. |
|
| 22 |
|
| Dywedodd Abadon a marwolaeth, "Clywsom 'n clustiau sn amdani." |
|
| 23 |
|
| Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle. |
|
| 24 |
|
| Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear, a gweld popeth sy dan y nefoedd. |
|
| 25 |
|
| Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt, a rhannu'r dyfroedd mesur, |
|
| 26 |
|
| a gosod terfyn i'r glaw, a ffordd i'r mellt a'r taranau, |
|
| 27 |
|
| yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi, fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan. |
|
| 28 |
|
| A dywedodd wrth ddynolryw, "Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall." |
|
|
|
|