|
| 1 |
|
| Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni. |
|
| 2 |
|
| Meddai Job: |
|
| 3 |
|
| "Difoder y dydd y'm ganwyd, a'r nos y dywedwyd, 'Cenhedlwyd bachgen'. |
|
| 4 |
|
| Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch; na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod, ac na lewyrched goleuni arno. |
|
| 5 |
|
| Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu; arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddwch y dydd. |
|
| 6 |
|
| Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno; na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn, ac na ddoed i blith nifer y misoedd. |
|
| 7 |
|
| Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth, heb su373?n gorfoledd ynddi. |
|
| 8 |
|
| Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau, y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan. |
|
| 9 |
|
| Tywylled sr ei chyfddydd, disgwylied am oleuni heb ei gael, ac na weled doriad gwawr, |
|
| 10 |
|
| am na chaeodd ddrysau croth fy mam, na chuddio gofid o'm golwg. |
|
| 11 |
|
| Pam na fm farw yn y groth, neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru? |
|
| 12 |
|
| Pam y derbyniodd gliniau fi, ac y rhoddodd bronnau sugn i mi? |
|
| 13 |
|
| Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd, yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys, |
|
| 14 |
|
| gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear, a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain, |
|
| 15 |
|
| neu gyda thywysogion goludog, a lanwodd eu tai ag arian, |
|
| 16 |
|
| neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd, fel babanod na welsant oleuni. |
|
| 17 |
|
| Yno, peidia'r drygionus therfysgu, a chaiff y lluddedig orffwys. |
|
| 18 |
|
| Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch; ni chlywant lais y meistri gwaith. |
|
| 19 |
|
| Bychan a mawr sydd yno, a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr. |
|
| 20 |
|
| Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig a bywyd i'r chwerw ei ysbryd, |
|
| 21 |
|
| sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod, sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd, |
|
| 22 |
|
| sy'n llawenychu pan gaiff feddrod, ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd? |
|
| 23 |
|
| "Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd, a chaeodd Duw amdano. |
|
| 24 |
|
| Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd, a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd. |
|
| 25 |
|
| Y peth a ofnaf a ddaw arnaf, a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi. |
|
| 26 |
|
| Nid oes imi dawelwch na llonyddwch; ni chaf orffwys, canys daw dychryn." |
|
|
|
|