|
| 1 |
|
| "Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen, ie, rhai sy'n iau na mi, rhai na buaswn yn ystyried eu tadau i'w gosod gyda'm cu373?n defaid. |
|
| 2 |
|
| Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi, gan fod eu hegni wedi diflannu? |
|
| 3 |
|
| Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd, yn crafu yn y tir sych a diffaith. |
|
| 4 |
|
| Casglant yr hocys a dail y prysglwyn a gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes. |
|
| 5 |
|
| Erlidir hwy o blith pobl, a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr. |
|
| 6 |
|
| Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd, ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau. |
|
| 7 |
|
| Y maent yn nadu o ganol y perthi; closiant at ei gilydd o dan y llwyni. |
|
| 8 |
|
| Pobl ynfyd a dienw ydynt; fe'u gyrrwyd allan o'r tir. |
|
| 9 |
|
| "Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd; yr wyf yn destun gwawd iddynt. |
|
| 10 |
|
| Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf, ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb. |
|
| 11 |
|
| Pan ryddha ef raff a'm cystuddio, taflant hwythau'r enfa yn fy ngu373?ydd. |
|
| 12 |
|
| Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde; gorfodant fi i gerdded ymlaen, ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd. |
|
| 13 |
|
| Maluriant fy llwybrau, ychwanegant at f'anffawd, ac nid oes neb yn eu rhwystro. |
|
| 14 |
|
| Dnt arnaf fel trwy fwlch llydan; rhuthrant trwy ganol y dinistr. |
|
| 15 |
|
| Daeth dychryniadau arnaf; gwasgerir fy urddas fel gan wynt; diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl. |
|
| 16 |
|
| "Yn awr llewygodd fy ysbryd, cydiodd dyddiau cystudd ynof. |
|
| 17 |
|
| Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos, ac ni lonydda fy nghnofeydd. |
|
| 18 |
|
| Cydiant yn nerthol yn fy nillad, a gafael ynof wrth goler fy mantell. |
|
| 19 |
|
| Taflwyd fi i'r llaid, ac ystyrir fi fel llwch a lludw. |
|
| 20 |
|
| Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb; safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof. |
|
| 21 |
|
| Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf, ac yr wyt yn ymosod arnaf 'th holl nerth. |
|
| 22 |
|
| Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt, a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm. |
|
| 23 |
|
| Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi, i'r lle a dynghedwyd i bob un byw. |
|
| 24 |
|
| "Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei law ac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr? |
|
| 25 |
|
| Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno, a gofidio dros y tlawd? |
|
| 26 |
|
| Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg; pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch. |
|
| 27 |
|
| Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd, daeth dyddiau gofid arnaf. |
|
| 28 |
|
| Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul; codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth. |
|
| 29 |
|
| Yr wyf yn frawd i'r siacal, ac yn gyfaill i'r estrys. |
|
| 30 |
|
| Duodd fy nghroen, a llosgodd f'esgyrn gan wres. |
|
| 31 |
|
| Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf, a'm ffliwt i seinio galar. |
|
|
|
|