|
| 1 |
|
| Ond bellach mae hogiau ifanc yn gwenu'n wawdlyd arna i; rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylw i'm cŵn defaid nag i'w tadau nhw! |
|
| 2 |
|
| Dynion rhy wan i fod o iws i mi — dynion wedi colli pob cryfder. |
|
| 3 |
|
| Dynion sy'n denau o angen a newyn, yn crwydro'r tir sych, a'r diffeithwch anial yn y nos. |
|
| 4 |
|
| Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt, a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes. |
|
| 5 |
|
| Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas, a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron. |
|
| 6 |
|
| Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd, mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu. |
|
| 7 |
|
| Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn, ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni. |
|
| 8 |
|
| Pobl ddwl a da i ddim, wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas. |
|
| 9 |
|
| Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw; ac yn ddim byd ond testun sbort. |
|
| 10 |
|
| Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i; ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith. |
|
| 11 |
|
| Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i, maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop. |
|
| 12 |
|
| Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr, i'm bwrw oddi ar fy nhraed; maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio. |
|
| 13 |
|
| Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro, ac yn llwyddo i'm llorio, heb angen unrhyw help. |
|
| 14 |
|
| Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan; yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio. |
|
| 15 |
|
| Mae dychryn yn dod drosta i, fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd; mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl. |
|
| 16 |
|
| Bellach mae fy enaid yn drist, a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi. |
|
| 17 |
|
| Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos, a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid. |
|
| 18 |
|
| Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad, a'm tagu gyda choler fy nghrys. |
|
| 19 |
|
| Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd; dw i'n ddim byd ond llwch a lludw. |
|
| 20 |
|
| O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb; dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw. |
|
| 21 |
|
| Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i; a'm taro mor galed ac y medri. |
|
| 22 |
|
| Ti wedi fy nghodi ar y corwynt; a'm taflu o gwmpas yn y storm. |
|
| 23 |
|
| Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw, a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw. |
|
| 24 |
|
| Wnes i erioed godi fy llaw i daro rhywun oedd yn galw am help yn ei drybini! |
|
| 25 |
|
| Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled, ac yn torri fy nghalon dros y tlawd. |
|
| 26 |
|
| Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg; wrth edrych am olau, daeth tywyllwch. |
|
| 27 |
|
| Dw i'n corddi y tu mewn i mi, wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef. |
|
| 28 |
|
| Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul; dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help. |
|
| 29 |
|
| Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal, neu gymar i'r estrys. |
|
| 30 |
|
| Mae fy nghroen wedi tywyllu, a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres. |
|
| 31 |
|
| Felly mae fy nhelyn yn canu alaw drist, a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru. |
|
|
|
|