|
| 1 |
|
| "Gwneuthum gytundeb 'm llygaid i beidio llygadu merch. |
|
| 2 |
|
| Beth yw fy nhynged gan Dduw oddi uchod, a'm cyfran gan yr Hollalluog o'r uchelder? |
|
| 3 |
|
| Oni ddaw dinistr ar y twyllodrus, ac aflwydd i'r drygionus? |
|
| 4 |
|
| Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd, ac yn cyfrif fy nghamau? |
|
| 5 |
|
| A euthum ar l oferedd, a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo? |
|
| 6 |
|
| Pwyser fi mewn cloriannau cywir i Dduw gael gweld fy nghywirdeb. |
|
| 7 |
|
| Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd, a'm calon yn dilyn fy llygaid, neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo, |
|
| 8 |
|
| yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais, a diwreiddir yr hyn a blennais. |
|
| 9 |
|
| "Os denwyd fy nghalon gan ddynes, ac os bm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog, |
|
| 10 |
|
| yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall, a chaiff dieithryn orwedd gyda hi. |
|
| 11 |
|
| Oherwydd byddai hynny'n anllad, ac yn drosedd i'r barnwyr; |
|
| 12 |
|
| byddai fel tn yn difa'n llwyr, ac yn dinistrio fy holl gynnyrch. |
|
| 13 |
|
| "Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwyn pan oedd ganddynt gu373?yn yn fy erbyn, |
|
| 14 |
|
| beth a wnaf pan gyfyd Duw? Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo? |
|
| 15 |
|
| Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth, a'n creu yn y bru? |
|
| 16 |
|
| "Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad, neu siomi disgwyliad y weddw; |
|
| 17 |
|
| os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun, a gwrthod ei rannu 'r amddifad |
|
| 18 |
|
| yn wir bm fel tad yn ei fagu o'i ieuenctid, ac yn ei arwain o adeg ei eni |
|
| 19 |
|
| os gwelais grwydryn heb ddillad, neu dlotyn heb wisg, |
|
| 20 |
|
| a'i lwynau heb fy mendithio am na chynheswyd ef gan gnu fy u373?yn; |
|
| 21 |
|
| os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad am fy mod yn gweld cefnogaeth imi yn y porth; |
|
| 22 |
|
| yna disgynned f'ysgwydd o'i lle, a thorrer fy mraich o'i chyswllt. |
|
| 23 |
|
| Yn wir y mae ofn dinistr Duw arnaf, ac ni allaf wynebu ei fawredd. |
|
| 24 |
|
| "Os rhoddais fy hyder ar aur, a meddwl am ddiogelwch mewn aur coeth; |
|
| 25 |
|
| os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, a bod cymaint yn fy meddiant; |
|
| 26 |
|
| os edrychais ar yr haul yn tywynnu, a'r lleuad tra parhi'n ddisglair, |
|
| 27 |
|
| ac os cafodd fy nghalon ei hudo'n ddirgel, a chusanu fy llaw mewn gwrogaeth; |
|
| 28 |
|
| byddai hyn hefyd yn drosedd i'm barnwr, oherwydd imi wadu Duw uchod. |
|
| 29 |
|
| "A lawenychais am drychineb fy ngelyn, ac ymffrostio pan ddaeth drwg arno? |
|
| 30 |
|
| Ni adewais i'm tafod bechu trwy osod ei einioes dan felltith. |
|
| 31 |
|
| Oni ddywedodd y dynion yn fy mhabell, 'Pwy sydd na ddigonwyd ganddo bwyd?'? |
|
| 32 |
|
| Ni chafodd y dieithryn gysgu allan; agorais fy nrws i'r crwydryn. |
|
| 33 |
|
| A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill, trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes, |
|
| 34 |
|
| am fy mod yn ofni'r dyrfa, a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn, a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan? |
|
| 35 |
|
| O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf! Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb, a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wu375?s. |
|
| 36 |
|
| Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau, a'i gwisgo fel coron ar fy mhen. |
|
| 37 |
|
| Rhof gyfrif iddo o'm camau, a nesu ato fel tywysog. |
|
| 38 |
|
| Os gwaeddodd fy nhir yn f'erbyn, a'i gwysi i gyd yn wylo; |
|
| 39 |
|
| os bwyteais ei gynnyrch heb dalu amdano, ac ennyn atgasedd ei berchenogion; |
|
| 40 |
|
| yna tyfed mieri yn lle gwenith, a chwyn yn lle haidd." Dyma derfyn geiriau Job. |
|
|
|
|