|
| 1 |
|
| "Ond yn awr, Job, gwrando arnaf, a chlustfeinia ar fy ngeiriau i gyd. |
|
| 2 |
|
| Dyma fi'n agor fy ngwefusau, a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau. |
|
| 3 |
|
| Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest, a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant. |
|
| 4 |
|
| Ysbryd Duw a'm lluniodd, ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw. |
|
| 5 |
|
| Ateb fi, os medri; trefna dy achos, a saf o'm blaen. |
|
| 6 |
|
| Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath thithau; o glai y'm lluniwyd innau hefyd. |
|
| 7 |
|
| Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu; ni fyddaf yn llawdrwm arnat. |
|
| 8 |
|
| "Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw, a chlywais innau dy eiriau'n glir: |
|
| 9 |
|
| 'Rwy'n ln, heb drosedd; rwy'n bur heb gamwedd. |
|
| 10 |
|
| Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn, ac yn f'ystyried yn elyn iddo, |
|
| 11 |
|
| yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio fy holl ffyrdd.' |
|
| 12 |
|
| "Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti: Y mae Duw yn fwy na meidrolyn. |
|
| 13 |
|
| Pam yr wyt yn ymgecru ag ef, oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau? |
|
| 14 |
|
| Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith, ond nid oes neb yn cymryd sylw. |
|
| 15 |
|
| Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos, pan ddaw trymgwsg ar bobl, pan gysgant yn eu gwelyau, |
|
| 16 |
|
| yna fe wna iddynt wrando, a'u dychryn rhybuddion, |
|
| 17 |
|
| i droi rhywun oddi wrth ei weithred, a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho, |
|
| 18 |
|
| a gwaredu ei einioes rhag y pwll, a'i fywyd rhag croesi afon angau. |
|
| 19 |
|
| "Fe'i disgyblir ar ei orwedd chryndod di-baid yn ei esgyrn; |
|
| 20 |
|
| y mae bwyd yn ffiaidd ganddo, ac nid oes arno chwant am damaid blasus; |
|
| 21 |
|
| nycha'i gnawd o flaen fy llygad, a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg; |
|
| 22 |
|
| y mae ei einioes ar ymyl y pwll, a'i fywyd ger mangre'r meirw. |
|
| 23 |
|
| Os oes angel i sefyll drosto un o blith mil i gyfryngu ac i ddadlau ei hawl drosto, |
|
| 24 |
|
| a thrugarhau wrtho gan ddweud, 'Achub ef rhag mynd i'r pwll; y mae pris ei ryddid gennyf fi' |
|
| 25 |
|
| yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed, wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid. |
|
| 26 |
|
| Bydd yn gweddo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando; bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd, gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad |
|
| 27 |
|
| a chanu yn eu gu373?ydd, a dweud, 'Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb, ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn; |
|
| 28 |
|
| gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll, ac fe wl fy mywyd oleuni.' |
|
| 29 |
|
| "Gwna Duw hyn i gyd i feidrolyn ddwywaith, ie deirgwaith; |
|
| 30 |
|
| fe adfer ei einioes o'r pwll, er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd. |
|
| 31 |
|
| Ystyria, Job, a gwrando arnaf; bydd dawel ac mi lefaraf. |
|
| 32 |
|
| Os oes gennyt ddadl, ateb fi; llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau. |
|
| 33 |
|
| Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf; bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti." |
|
|
|
|