|
| 1 |
|
| Felly Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud. Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i. |
|
| 2 |
|
| Edrych, dw i am agor fy ngheg, a gadael i'm tafod ddweud ei dweud. |
|
| 3 |
|
| Dw i'n mynd i siarad yn onest, a dweud fy marn yn gwbl agored. |
|
| 4 |
|
| Ysbryd Duw luniodd fi; anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw. |
|
| 5 |
|
| Ateb fi, os wyt ti'n gallu; gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i. |
|
| 6 |
|
| Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw; ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd. |
|
| 7 |
|
| Felly does dim byd i ti ei ofni; fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti. |
|
| 8 |
|
| Dyma wyt ti wedi ei ddweud, (clywais dy eiriau di'n glir): |
|
| 9 |
|
| ‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le; dw i'n lân, a heb bechu. |
|
| 10 |
|
| Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn; mae'n fy nhrin i fel gelyn. |
|
| 11 |
|
| Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’ |
|
| 12 |
|
| Dwyt ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam: Mae Duw yn fwy na dyn. |
|
| 13 |
|
| Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn? Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn? |
|
| 14 |
|
| Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro, ac mewn ffordd wahanol dro arall — ond er hynny dydy pobl ddim yn deall. |
|
| 15 |
|
| Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm; pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu. |
|
| 16 |
|
| Mae e'n gwneud i bobl wrando — yn eu dychryn nhw gyda rhybudd |
|
| 17 |
|
| i beidio gwneud rhywbeth, a'u stopio nhw rhag bod mor falch. |
|
| 18 |
|
| Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd, rhag iddo groesi afon marwolaeth. |
|
| 19 |
|
| Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei wely a chryndod di-baid drwy ei esgyrn. |
|
| 20 |
|
| Mae bwyd yn codi cyfog arno; does ganddo awydd dim byd blasus. |
|
| 21 |
|
| Mae wedi colli cymaint o bwysau, nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg. |
|
| 22 |
|
| Mae'n agos iawn at y bedd, bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth. |
|
| 23 |
|
| Ond os daw angel at ei ochr (dim ond un o'i blaid, un o blith y mil) i ddadlau ei hawl drosto — |
|
| 24 |
|
| yna bydd Duw yn drugarog wrtho. ‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd; dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’ |
|
| 25 |
|
| Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid! |
|
| 26 |
|
| Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando; bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb, a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun. |
|
| 27 |
|
| Bydd yn canu o flaen pobl, ‘Pechais, a gwneud y peth anghywir, ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu. |
|
| 28 |
|
| Mae e wedi fy achub o afael y bedd; dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’ |
|
| 29 |
|
| Yn wir, mae Duw yn gwneud hyn drosodd a throsodd: |
|
| 30 |
|
| achub bywyd o bwll y bedd, iddo gael gweld goleuni bywyd. |
|
| 31 |
|
| Edrych, Job, gwranda arna i; gwrando'n dawel i mi gael siarad. |
|
| 32 |
|
| Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi; dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn. |
|
| 33 |
|
| Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i; gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.” |
|
|
|
|