|
| 1 |
|
| Dywedodd Elihu: |
|
| 2 |
|
| "Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion; clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus. |
|
| 3 |
|
| Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau, fel y profir bwyd gan daflod y genau. |
|
| 4 |
|
| Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn, a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda. |
|
| 5 |
|
| Dywedodd Job, 'Yr wyf yn gyfiawn, ond trodd Duw farn oddi wrthyf. |
|
| 6 |
|
| Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog; y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.' |
|
| 7 |
|
| Pwy sydd fel Job, yn drachtio dirmyg fel du373?r, |
|
| 8 |
|
| yn cadw cwmni rhai ofer, ac yn gwag-symera gyda'r drygionus? |
|
| 9 |
|
| Oherwydd dywedodd, 'Nid yw o werth i neb ymhyfrydu yn Nuw.' |
|
| 10 |
|
| "Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn. |
|
| 11 |
|
| Oherwydd fe dl ef i bob un yn l ei weithred, a'i wobrwyo yn l ei ffordd o fyw. |
|
| 12 |
|
| Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg, ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn. |
|
| 13 |
|
| Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear, a rhoi'r byd cyfan iddo? |
|
| 14 |
|
| Pe byddai ef yn rhoi ei fryd ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn l ato'i hun, |
|
| 15 |
|
| yna byddai pob cnawd yn marw, a phawb yn dychwelyd i'r pridd. |
|
| 16 |
|
| "Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn, a rho sylw i'm geiriau. |
|
| 17 |
|
| A all un sy'n casu barn lywodraethu? A gondemni di'r un cyfiawn cadarn? |
|
| 18 |
|
| Gall ef ddweud wrth frenin, 'Y dihiryn', ac wrth lywodraethwyr, 'Y cnafon'; |
|
| 19 |
|
| nid yw'n dangos ffafr at swyddogion, nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd, oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt. |
|
| 20 |
|
| Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos; trenga'r cyfoethog, a diflannu; symudir ymaith y cryf heb ymdrech. |
|
| 21 |
|
| "Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gwl ei holl gamau. |
|
| 22 |
|
| Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio. |
|
| 23 |
|
| Nid oes amser wedi ei drefnu i neb ddod i farn o flaen Duw; |
|
| 24 |
|
| y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi, ac yn gosod eraill yn eu lle. |
|
| 25 |
|
| Y mae'n adnabod eu gweithredoedd, ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson. |
|
| 26 |
|
| Y mae'n eu taro o achos eu drygioni, a hynny yng ngu373?ydd pawb, |
|
| 27 |
|
| am eu bod yn troi oddi wrtho, ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd. |
|
| 28 |
|
| Gwnnt i gri'r tlawd ddod ato, ac iddo glywed gwaedd yr anghenus. |
|
| 29 |
|
| Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg; y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais boed genedl neu unigolyn |
|
| 30 |
|
| rhag i neb annuwiol lywodraethu, a maglu pobl. |
|
| 31 |
|
| "Os dywed un wrth Dduw, 'Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto; |
|
| 32 |
|
| am na allaf fi weld, hyffordda di fi; os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato' |
|
| 33 |
|
| a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio y bydd ef yn fodlon ar hynny? Ti sydd i ddewis, nid fi; traetha yr hyn a wyddost. |
|
| 34 |
|
| Y mae pobl ddeallus yn siarad mi, a rhai doeth yn gwrando arnaf. |
|
| 35 |
|
| Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried, ac nid yw ei eiriau yn ddeallus. |
|
| 36 |
|
| O na phrofid Job i'r eithaf, gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg! |
|
| 37 |
|
| Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod, yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith, ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw." |
|
|
|
|