Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dywedodd Elihu: |
| 2 |
| "A gredi di fod hyn yn iawn? A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw, |
| 3 |
| a thithau'n dweud, 'Pa werth ydyw i ti, neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?'? |
| 4 |
| Fe roddaf fi'r ateb iti, a hefyd i'th gyfeillion. |
| 5 |
| Edrych ar yr awyr, ac ystyria, a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben. |
| 6 |
| Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef? Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef? |
| 7 |
| Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef, neu beth a dderbyn ef o'th law? |
| 8 |
| meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni, ac phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder. |
| 9 |
| "Pan waedda pobl dan faich gorthrwm, a llefain am waredigaeth o afael y mawrion, |
| 10 |
| ni ddywed neb, 'Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr, a rydd destun cn yn y nos, |
| 11 |
| ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion, ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?' |
| 12 |
| Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef, o achos balchder y drygionus. |
| 13 |
| Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno, ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono. |
| 14 |
| nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld, a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho. |
| 15 |
| Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig, ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd, |
| 16 |
| fe lefarodd Job yn ynfyd, ac amlhau geiriau heb ddeall." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/job/035.mp3
42
35