Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Yna dwedodd Elihw: |
| 2 |
| “Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawn i ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’? |
| 3 |
| A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’ a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’ |
| 4 |
| Gad i mi dy ateb di — ti, a dy ffrindiau gyda ti. |
| 5 |
| Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria; Edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben. |
| 6 |
| Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw? Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro, beth wyt ti'n ei wneud iddo fe? |
| 7 |
| Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn, sut mae hynny'n helpu Duw? Beth mae e'n ei dderbyn gen ti? |
| 8 |
| Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg, neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn. |
| 9 |
| Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help, ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus. |
| 10 |
| Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr, sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll? |
| 11 |
| Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid, ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’ |
| 12 |
| Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb, am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch. |
| 13 |
| Dŷn nhw ddim o ddifrif — a dydy Duw ddim yn gwrando; dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw. |
| 14 |
| Felly, pam gwrando arnat ti, sy'n cwyno nad wyt yn ei weld, fod dy achos o'i flaen, a dy fod yn aros am ymateb? |
| 15 |
| A hyd yn oed yn honni nad ydy e'n cosbi yn ei ddig, ac nad ydy e'n poeni dim am bechod! |
| 16 |
| Mae Job yn siarad nonsens; mae'n mwydro ymlaen heb ddeall dim.” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/job/035.mp3
42
35