|
| 1 |
|
| Aeth Elihu ymlaen i ddweud: |
|
| 2 |
|
| "Aros ychydig, imi gael dangos iti fod eto eiriau i'w dweud dros Dduw. |
|
| 3 |
|
| Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell, i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn. |
|
| 4 |
|
| Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd; un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen. |
|
| 5 |
|
| Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn; nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall. |
|
| 6 |
|
| Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw, ond fe gynnal achos y gwan. |
|
| 7 |
|
| Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn, ond gyda brenhinoedd ar orsedd cnt eistedd am byth, a llwyddo. |
|
| 8 |
|
| Os rhwymir hwy mewn cadwynau, a'u dal mewn gefynnau gofid, |
|
| 9 |
|
| yna fe ddengys iddynt eu gweithred a'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel. |
|
| 10 |
|
| Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth, a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni. |
|
| 11 |
|
| Os gwrandawant, a bod yn ufudd, fe gnt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant, a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch. |
|
| 12 |
|
| Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf, a darfyddant heb ddysgu dim. |
|
| 13 |
|
| "Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig, ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed. |
|
| 14 |
|
| Y maent yn marw'n ifanc, wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr. |
|
| 15 |
|
| Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid, a'u dysgu trwy orthrymder. |
|
| 16 |
|
| "Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid, a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder, a hulio dy fwrdd phob braster, |
|
| 17 |
|
| yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus, wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder. |
|
| 18 |
|
| Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd, a phaid gadael i faint y rhodd dy ddenu. |
|
| 19 |
|
| A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder, neu holl adnoddau dy nerth? |
|
| 20 |
|
| Paid dyheu am y nos, pan symudir pobloedd o'u lle. |
|
| 21 |
|
| Gwylia rhag troi at ddrygioni, oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid. |
|
| 22 |
|
| Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth; pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef? |
|
| 23 |
|
| Pwy a wylia arno yn ei ffordd? a phwy a ddywed, 'Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn'? |
|
| 24 |
|
| "Cofia di ganmol ei waith, y gwaith y canodd pobl amdano. |
|
| 25 |
|
| Y mae pawb yn edrych arno, ac yn ei weld o bell. |
|
| 26 |
|
| Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall, a'i flynyddoedd yn ddirifedi. |
|
| 27 |
|
| Y mae'n cronni'r defnynnau du373?r, ac yn eu dihidlo'n law mn fel tarth; |
|
| 28 |
|
| fe'u tywelltir o'r cymylau, i ddisgyn yn gawodydd ar bobl. |
|
| 29 |
|
| A ddeall neb daeniad y cwmwl, a'r tyrfau sydd yn ei babell? |
|
| 30 |
|
| Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas, ac y cuddia waelodion y mr. |
|
| 31 |
|
| 'r rhain y diwalla ef y bobloedd, a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd. |
|
| 32 |
|
| Deil y mellt yn ei ddwylo, a'u hanelu i gyrraedd eu nod. |
|
| 33 |
|
| Dywed ei drwst amdano, fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni. |
|
|
|
|