|
| 1 |
|
| "Am hyn hefyd y mae fy nghalon yn cynhyrfu, ac yn llamu o'i lle. |
|
| 2 |
|
| Gwrandewch ar daran ei lais, a'r atsain a ddaw o'i enau. |
|
| 3 |
|
| Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren, ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd. |
|
| 4 |
|
| Ar eu hl fe rua; tarana 'i lais mawr, ac nid yw'n eu hatal pan glywir ei lais. |
|
| 5 |
|
| Tarana Duw yn rhyfeddol 'i lais; gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall. |
|
| 6 |
|
| Fe ddywed wrth yr eira, 'Disgyn ar y ddaear', ac wrth y glaw a'r cawodydd, 'Trymhewch'. |
|
| 7 |
|
| Y mae pob un yn cael ei gau i mewn, a phopeth a wnnt yn cael ei atal. |
|
| 8 |
|
| 'r anifeiliaid i'w ffeuau, ac aros yn eu gwl. |
|
| 9 |
|
| Daw'r corwynt allan o'i ystafell, ac oerni o'r tymhestloedd. |
|
| 10 |
|
| Daw anadl Duw 'r rhew, a rhewa'r llynnoedd yn galed. |
|
| 11 |
|
| Lleinw'r cwmwl hefyd gwlybaniaeth, a gwasgara'r cwmwl ei fellt. |
|
| 12 |
|
| Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn, i wneud y cyfan a ddywed wrthynt, dros wyneb daear gyfan. |
|
| 13 |
|
| "Gwna hyn naill ai fel cosb, neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd. |
|
| 14 |
|
| "Gwrando ar hyn, Job; aros ac ystyria ryfeddodau Duw. |
|
| 15 |
|
| A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu, ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl? |
|
| 16 |
|
| A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau, rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth? |
|
| 17 |
|
| Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de, |
|
| 18 |
|
| a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren, sy'n galed fel drych o fetel tawdd? |
|
| 19 |
|
| Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho; oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos. |
|
| 20 |
|
| A ellir dweud wrtho, 'Yr wyf fi am lefaru', neu fynegi iddo, 'Y mae hwn am siarad'? |
|
| 21 |
|
| "Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleuni pan yw'n ddisglair yn yr awyr, a'r gwynt wedi dod a'i chlirio. |
|
| 22 |
|
| Disgleiria o'r gogledd fel aur; o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy. |
|
| 23 |
|
| Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog, y mae'n fawr ei nerth; yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam. |
|
| 24 |
|
| Am hyn, y mae pawb yn ei ofni, a phob un doeth yn edrych ato." |
|
|
|
|