|
| 1 |
|
| Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt: |
|
| 2 |
|
| "Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor geiriau diwybod? |
|
| 3 |
|
| Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb. |
|
| 4 |
|
| "Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost. |
|
| 5 |
|
| Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siu373?r dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni? |
|
| 6 |
|
| Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen? |
|
| 7 |
|
| Ble'r oeddit ti pan oedd sr y bore i gyd yn llawenhau, a'r holl angylion yn gorfoleddu, |
|
| 8 |
|
| pan gaewyd ar y mr dorau, pan lamai allan o'r groth, |
|
| 9 |
|
| pan osodais gwmwl yn wisg amdano, a'r caddug yn rhwymyn iddo, |
|
| 10 |
|
| a phan drefnais derfyn iddo, a gosod barrau a dorau, |
|
| 11 |
|
| a dweud, 'Hyd yma yr ei, a dim pellach, ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau'? |
|
| 12 |
|
| "A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore a dangos ei lle i'r wawr, |
|
| 13 |
|
| er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear, i ysgwyd y drygionus ohoni? |
|
| 14 |
|
| Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sl, ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn. |
|
| 15 |
|
| Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus, a thorrir y fraich ddyrchafedig. |
|
| 16 |
|
| "A fedri di fynd at ffynhonnell y mr, neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder? |
|
| 17 |
|
| A agorwyd pyrth angau i ti, neu a welaist ti byrth y fagddu? |
|
| 18 |
|
| A fedri di ddirnad maint y ddaear? Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd. |
|
| 19 |
|
| "Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni, ac i le tywyllwch, |
|
| 20 |
|
| fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn, a gwybod y llwybr i'w thu375?? |
|
| 21 |
|
| Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno, a bod nifer dy ddyddiau yn fawr! |
|
| 22 |
|
| "A fuost ti yn ystordai'r eira, neu'n gweld cistiau'r cesair? |
|
| 23 |
|
| Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod, at ddydd brwydr a rhyfel. |
|
| 24 |
|
| Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni, ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear? |
|
| 25 |
|
| "Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw, a llwybr i'r daranfollt, |
|
| 26 |
|
| i lawio ar dir heb neb ynddo, a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo, |
|
| 27 |
|
| i ddigoni'r tir diffaith ac anial, a pheri i laswellt dyfu yno? |
|
| 28 |
|
| "A oes tad i'r glaw? Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith? |
|
| 29 |
|
| O groth pwy y daw'r rhew? A phwy a genhedlodd y llwydrew, |
|
| 30 |
|
| i galedu'r dyfroedd fel carreg, a rhewi wyneb y dyfnder? |
|
| 31 |
|
| A fedri di gau cadwynau Pleiades, neu ddatod rhwymau Orion? |
|
| 32 |
|
| A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd, a thywys yr Arth gyda'i phlant? |
|
| 33 |
|
| A wyddost ti reolau'r awyr? A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn? |
|
| 34 |
|
| "A fedri di alw ar y cwmwl i beri i ddyfroedd lifo drosot? |
|
| 35 |
|
| A fedri di roi gorchymyn i'r mellt, iddynt ddod atat a dweud, 'Dyma ni'? |
|
| 36 |
|
| Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau, a deall i'r niwl? |
|
| 37 |
|
| Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau? A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys, |
|
| 38 |
|
| nes bod llwch yn mynd yn llaid, a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd? |
|
| 39 |
|
| "Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew, a diwallu angen y llewod ifanc, |
|
| 40 |
|
| pan grymant yn eu gwl, ac aros dan lwyn am helfa? |
|
| 41 |
|
| Pwy sy'n trefnu bwyd i'r frn, pan waedda'r cywion ar Dduw, a hedfan o amgylch heb fwyd? |
|
|
|
|