|
| 1 |
|
| Yna atebodd Eliffas y Temaniad: |
|
| 2 |
|
| "Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd? Eto pwy a all atal geiriau? |
|
| 3 |
|
| Wele, buost yn cynghori llawer ac yn nerthu'r llesg eu dwylo; |
|
| 4 |
|
| cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig, a chadarnhau'r gliniau gwan. |
|
| 5 |
|
| Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd; cyffyrddodd thi, ac yr wyt mewn helbul. |
|
| 6 |
|
| Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti, ac uniondeb dy fywyd yn obaith? |
|
| 7 |
|
| Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog, a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr? |
|
| 8 |
|
| Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi. |
|
| 9 |
|
| Difethir hwy gan anadl Duw, a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau. |
|
| 10 |
|
| Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf; pydra dannedd y llewod ifanc. |
|
| 11 |
|
| Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth, a gwneir yn amddifad genawon y llewes. |
|
| 12 |
|
| "Daeth gair ataf fi yn ddirgel; daliodd fy nghlust sibrwd ohono |
|
| 13 |
|
| yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos, pan ddaw trymgwsg ar bawb. |
|
| 14 |
|
| Daeth dychryn a chryndod arnaf, a chynhyrfu fy holl esgyrn. |
|
| 15 |
|
| Llithrodd awel heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll. |
|
| 16 |
|
| Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd; yr oedd ffurf o flaen fy llygaid; bu distawrwydd, yna clywais lais: |
|
| 17 |
|
| 'A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw, ac yn burach na'i Wneuthurwr? |
|
| 18 |
|
| Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision, ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd, |
|
| 19 |
|
| beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn? |
|
| 20 |
|
| Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr, llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi. |
|
| 21 |
|
| Pan ddatodir llinyn eu pabell, oni fyddant farw heb ddoethineb?' |
|
|
|
|