|
| 1 |
|
| A dyma Eliffas o Teman yn ymateb: |
|
| 2 |
|
| “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair? Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth! |
|
| 3 |
|
| Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu, a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu. |
|
| 4 |
|
| Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu, ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu. |
|
| 5 |
|
| Ond nawr, mae wedi digwydd i ti, a fedri di ddim godde'r peth; mae drwg wedi dy daro, a dyma ti yn anobeithio! |
|
| 6 |
|
| Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal? Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti? |
|
| 7 |
|
| Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed? Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr? |
|
| 8 |
|
| Fel yma dw i'n ei gweld hi: Y rhai sy'n aredig drygioni ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny! |
|
| 9 |
|
| Mae Duw yn chwythu arnyn nhw, ac maen nhw'n cael eu difa; maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau. |
|
| 10 |
|
| Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno, pan mae dannedd y llewod ifanc wedi eu torri. |
|
| 11 |
|
| Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw, a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar. |
|
| 12 |
|
| Ces neges yn dawel o'r dirgel, dim ond sibrydiad bach a glywais. |
|
| 13 |
|
| Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm. |
|
| 14 |
|
| Ro'n i wedi dychryn, ac yn crynu trwof; roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd! |
|
| 15 |
|
| Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll. |
|
| 16 |
|
| Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen, ond doeddwn i ddim yn ei nabod. Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd: |
|
| 17 |
|
| ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw? Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw? |
|
| 18 |
|
| Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision, ac yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl, |
|
| 19 |
|
| pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd, ac yn tarddu o'r llwch — y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn! |
|
| 20 |
|
| Gallan nhw gael eu sathru'n farw, unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud, a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw. |
|
| 21 |
|
| Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi, ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’ |
|
|
|
|