|
| 1 |
|
| Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Job. |
|
| 2 |
|
| “Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro? Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!” |
|
| 3 |
|
| A dyma Job yn ateb: |
|
| 4 |
|
| “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud? Dw i'n mynd i gadw'n dawel. |
|
| 5 |
|
| Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto. Dw i am ddweud dim mwy.” |
|
| 6 |
|
| Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud: |
|
| 7 |
|
| “Torcha dy lewys fel dyn! Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb. |
|
| 8 |
|
| Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn? Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn? |
|
| 9 |
|
| Wyt ti mor gryf ag ydw i? Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i? |
|
| 10 |
|
| Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi. Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas. |
|
| 11 |
|
| Dangos i bawb mor ddig wyt ti; dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw'n eu lle. |
|
| 12 |
|
| Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw; sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle! |
|
| 13 |
|
| Cladda nhw yn y llwch, a'u cloi nhw yn y bedd. |
|
| 14 |
|
| Gwna i gyfaddef wedyn dy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun! |
|
| 15 |
|
| Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti; mae e'n bwyta glaswellt fel ychen. |
|
| 16 |
|
| Edrych mor gryf ydy ei gluniau, ac ar gryfder cyhyrau ei fol. |
|
| 17 |
|
| Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd; mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd. |
|
| 18 |
|
| Mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn. |
|
| 19 |
|
| Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw; dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd. |
|
| 20 |
|
| Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo, ble mae'r holl anifeiliaid gwylltion eraill yn chwarae. |
|
| 21 |
|
| Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog, o'r golwg yng nghanol brwyn y gors. |
|
| 22 |
|
| Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod; a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant. |
|
| 23 |
|
| Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo; mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto. |
|
| 24 |
|
| All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio, neu wthio bachyn drwy ei drwyn? |
|
|
|
|