×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Job 41

1
"A fedri di dynnu Lefiathan allan bach, neu ddolennu rhaff am ei dafod?
2
A fedri di roi cortyn am ei drwyn, neu wthio bach i'w n?
3
A wna ef ymbil yn daer arnat, neu siarad yn addfwyn thi?
4
A wna gytundeb thi, i'w gymryd yn was iti am byth?
5
A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn, neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?
6
A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano, i'w rannu rhwng y gwerthwyr?
7
A osodi di bigau haearn yn ei groen, a bachau pysgota yn ei geg?
8
Os gosodi dy law arno, fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.
9
Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch; onid yw ei olwg yn peri arswyd?
10
Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu; a phwy a all sefyll o'i flaen?
11
Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddo o'r cyfan sydd gennyf dan y nef?
12
Ni pheidiaf sn am ei aelodau, ei gryfder a'i ffurf gytbwys.
13
Pwy a all agor ei wisg uchaf, neu drywanu ei groen dauddyblyg?
14
Pwy a all agor dorau ei geg, a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?
15
Y mae ei gefn fel rhesi o darianau wedi eu cau'n dynn sl.
16
Y maent yn gls wrth ei gilydd, heb fwlch o gwbl rhyngddynt.
17
Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall, fel na ellir eu gwahanu.
18
Y mae ei disian yn gwasgaru mellt, a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.
19
Daw fflachiadau allan o'i geg, a thasga gwreichion ohoni.
20
Daw mwg o'i ffroenau, fel o grochan yn berwi ar danllwyth.
21
Y mae ei anadl yn tanio cynnud, a daw fflam allan o'i geg.
22
Y mae cryfder yn ei wddf, ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.
23
Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd, ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.
24
Y mae ei galon yn gadarn fel craig, mor gadarn maen melin.
25
Pan symuda, fe ofna'r cryfion; nt o'u pwyll oherwydd su373?n y rhwygo.
26
Os ceisir ei drywanu 'r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith 'r waywffon, dagr, na'r bicell.
27
Y mae'n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru.
28
Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae'n trafod cerrig-tafl fel us.
29
Fel sofl yr ystyria'r pastwn, ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.
30
Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri, a gwna rychau fel og ar y llaid.
31
Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan; gwna'r mr fel eli wedi ei gymysgu.
32
Gedy lwybr gwyn ar ei l, a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.
33
Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno.
34
Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau