|
| 1 |
|
| Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota? Alli di rwymo ei dafod â rhaff? |
|
| 2 |
|
| Alli di roi cylch yn ei drwyn, neu wthio bachyn drwy ei ên? |
|
| 3 |
|
| Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd? Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti? |
|
| 4 |
|
| Fydd e'n ceisio dod i gytundeb, ac addo bod yn gaethwas i ti am byth? |
|
| 5 |
|
| Alli di chwarae gydag e fel aderyn, neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion? |
|
| 6 |
|
| Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano? Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr? |
|
| 7 |
|
| Alli di drywanu ei groen gyda phicellau, neu roi bachau pysgota yn ei geg? |
|
| 8 |
|
| Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr — fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto! |
|
| 9 |
|
| Pam? Am nad oes gobaith ei ddal; mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun. |
|
| 10 |
|
| Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn, felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i? |
|
| 11 |
|
| Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo? Fi sydd biau popeth dan y nef! |
|
| 12 |
|
| Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau, ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig. |
|
| 13 |
|
| Pwy sy'n gallu tynnu ei got oddi arno, neu drywanu ei arfwisg blethog? |
|
| 14 |
|
| Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor? Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus. |
|
| 15 |
|
| Mae ei gefn fel rhesi o darianau, wedi eu cloi i'w gilydd gan sêl. |
|
| 16 |
|
| Mae un yn cyffwrdd y llall; maen nhw'n hollol dynn yn erbyn ei gilydd. |
|
| 17 |
|
| Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd, a does dim modd eu gwahanu nhw. |
|
| 18 |
|
| Mae'n fflachio mellt wrth disian. Mae ei lygaid fel pelydrau'r wawr. |
|
| 19 |
|
| Mae fflamau yn llifo o'i geg, a gwreichion yn tasgu ohoni. |
|
| 20 |
|
| Mae mwg yn dod allan o'i ffroenau fel crochan berw yn stemio. |
|
| 21 |
|
| Mae ei anadl yn cynnau marwor; ac mae fflamau'n dod allan o'i geg. |
|
| 22 |
|
| Mae ei wddf mor gryf, a nerth yn llamu allan o'i flaen. |
|
| 23 |
|
| Mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd; maen nhw'n dynn amdano, a does dim modd eu symud. |
|
| 24 |
|
| Mae ei galon yn galed fel y graig, yn solet fel maen melin. |
|
| 25 |
|
| Pan mae'n codi mae'r rhai cryfaf yn dychryn; wrth iddo gynhyrfu maen nhw'n camu'n ôl. |
|
| 26 |
|
| Dydy ei daro gyda'r cleddyf yn cael dim effaith, na gwaywffon, na saeth, na phicell. |
|
| 27 |
|
| Mae'n trin haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. |
|
| 28 |
|
| Dydy saethau ddim yn gwneud iddo ffoi, ac mae cerrig tafl fel us yn ei olwg. |
|
| 29 |
|
| Mae pastwn fel gwelltyn yn ei daro, ac mae'n chwerthin ar y cleddyf sy'n clecian. |
|
| 30 |
|
| Oddi tano mae fel darnau o botyn wedi torri, ac mae'n gadael ei ôl yn y llaid fel llusg ddyrnu. |
|
| 31 |
|
| Mae'n gwneud i'r dŵr dwfn ferwi fel crochan, ac i'r môr gorddi fel eli'n cael ei gymysgu. |
|
| 32 |
|
| Mae'n gadael llwybr gloyw ar ei ôl, ac mae'r dŵr dwfn yn edrych fel gwallt gwyn. |
|
| 33 |
|
| Does dim byd tebyg iddo'n fyw ar y ddaear; creadur sy'n ofni dim byd. |
|
| 34 |
|
| Mae'n edrych i lawr ar bob anifail cryf; mae'n frenin ar bopeth balch.” |
|
|
|
|