×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Job 5

1
"Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb? At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?
2
Y mae dicter yn lladd yr ynfyd, a chenfigen yn dwyn angau i'r ffl.
3
Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd, ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;
4
ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared, wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.
5
Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef, ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain; ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.
6
Canys nid o'r pridd y daw gofid, nac o'r ddaear orthrymder;
7
ond genir dynion i orthrymder, cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.
8
"Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i, a gosod fy achos o'i flaen ef,
9
yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, rhyfeddodau dirifedi.
10
Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear, a'r dyfroedd ar y meysydd.
11
Y mae'n codi'r rhai isel i fyny, a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.
12
Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys; ni all eu dwylo wneud dim o fudd.
13
Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra, a buan y diflanna cynllun y dichellgar.
14
Brwydrant thywyllwch hyd yn oed liw dydd, ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.
15
Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael, a'r truan o afael y cryf.
16
Am hynny y mae gobaith i'r tlawd, ac anghyfiawnder yn cau ei safn.
17
"Dedwydd y sawl a gerydda Duw, ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.
18
Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur; ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.
19
Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder; ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.
20
Fe'th achub di rhag marw mewn newyn, a rhag y cleddyf mewn brwydr.
21
Cei loches rhag ffrewyll y tafod, ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.
22
Chwerddi ar ddinistr a newyn, ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.
23
Byddi mewn cynghrair cherrig y tir, a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch thi.
24
Yna gweli fod dy babell yn ddiogel, a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.
25
Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth, a'th epil fel gwellt y maes.
26
Ei i'r bedd mewn henaint teg, fel y cesglir ysgub yn ei phryd.
27
Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir; gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau