|
| 1 |
|
| Atebodd Job: |
|
| 2 |
|
| "O na ellid pwyso fy nhrallod, a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian! |
|
| 3 |
|
| Yna byddai'n drymach na thywod y mr; am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll. |
|
| 4 |
|
| Y mae saethau'r Hollalluog ynof; yfodd fy ysbryd eu gwenwyn; dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf. |
|
| 5 |
|
| A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt? A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant? |
|
| 6 |
|
| A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen? A oes blas ar sudd y malws? |
|
| 7 |
|
| Y mae fy stumog yn eu gwrthod; y maent fel pydredd fy nghnawd. |
|
| 8 |
|
| "O na ddi fy nymuniad i ben, ac na chyflawnai Duw fy ngobaith! |
|
| 9 |
|
| O na ryngai fodd i Dduw fy nharo, ac estyn ei law i'm torri i lawr! |
|
| 10 |
|
| Byddai o hyd yn gysur imi, a llawenhawn yn yr ing diarbed (nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct). |
|
| 11 |
|
| Pa nerth sydd gennyf i obeithio, a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar? |
|
| 12 |
|
| Ai nerth cerrig yw fy nerth? Ai pres yw fy nghnawd? |
|
| 13 |
|
| Wele, nid oes imi gymorth ynof, a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf. |
|
| 14 |
|
| Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf, er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog. |
|
| 15 |
|
| Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol; fel nentydd sy'n gorlifo, |
|
| 16 |
|
| yn dywyll gan rew, ac eira yn cuddio ynddynt. |
|
| 17 |
|
| Ond pan ddaw poethder fe beidiant, ac yn y gwres diflannant o'u lle. |
|
| 18 |
|
| Troella'r carafanau yn eu ffyrdd, crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy. |
|
| 19 |
|
| Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt, a marsiandwyr Sheba yn disgwyl wrthynt. |
|
| 20 |
|
| Cywilyddir hwy yn eu hyder; dnt atynt, ac fe'u siomir. |
|
| 21 |
|
| Felly yr ydych chwithau i mi; gwelwch drychineb, a dychrynwch. |
|
| 22 |
|
| A ddywedais o gwbl, 'Rhowch imi, ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth; |
|
| 23 |
|
| achubwch fi o afael y gelyn, a rhyddhewch fi o afael gormeswyr'? |
|
| 24 |
|
| "Hyfforddwch fi, a thawaf; a dangoswch imi sut y cyfeiliornais. |
|
| 25 |
|
| Mor ddiflas yw geiriau uniawn! Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi? |
|
| 26 |
|
| A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau, gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt? |
|
| 27 |
|
| A fwriech goelbren am yr amddifad, a tharo bargen am un o'ch cyfeillion? |
|
| 28 |
|
| Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf; ai celwydd a ddywedaf yn eich gu373?ydd? |
|
| 29 |
|
| Trowch; na foed anghyfiawnder. Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad. |
|
| 30 |
|
| A oes anghyfiawnder ar fy nhafod? Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas? |
|
|
|
|