|
| 1 |
|
| "Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear, a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog? |
|
| 2 |
|
| Fel caethwas yn dyheu am gysgod, a gwas yn disgwyl am ei dl, |
|
| 3 |
|
| felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau, a threfnwyd imi nosweithiau gofidus. |
|
| 4 |
|
| Pan orweddaf, dywedaf, 'Pa bryd y caf godi?' Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr. |
|
| 5 |
|
| Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi; crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan. |
|
| 6 |
|
| Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd; darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben. |
|
| 7 |
|
| "Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl; ni wl fy llygaid ddaioni eto. |
|
| 8 |
|
| Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwl; ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti. |
|
| 9 |
|
| Fel y cilia'r cwmwl a diflannu, felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno; |
|
| 10 |
|
| ni ddaw eto i'w gartref, ac nid edwyn ei le mohono mwy. |
|
| 11 |
|
| "Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau; llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd, cwynaf yn chwerwder fy enaid. |
|
| 12 |
|
| Ai'r mr ydwyf, neu'r ddraig, gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf? |
|
| 13 |
|
| "Pan ddywedaf, 'Fy ngwely a rydd gysur imi; fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn', |
|
| 14 |
|
| yr wyt yn fy nychryn breuddwydion, ac yn f'arswydo gweledigaethau. |
|
| 15 |
|
| Gwell fyddai gennyf fy nhagu, a marw yn hytrach na goddef fy mhoen. |
|
| 16 |
|
| Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith. Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl. |
|
| 17 |
|
| Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried, ac iti roi cymaint o sylw iddo? |
|
| 18 |
|
| Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore, ac yn ei brofi bob eiliad. |
|
| 19 |
|
| Pa bryd y peidi ag edrych arnaf, ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri? |
|
| 20 |
|
| Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw? Pam y cymeraist fi'n nod, nes fy mod yn faich i mi fy hun? |
|
| 21 |
|
| Pam na faddeui fy nhrosedd a symud fy mai? Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch, ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael." |
|
|
|
|