|
| 1 |
|
| Atebodd Job: |
|
| 2 |
|
| "Gwn yn sicr fod hyn yn wir, na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw. |
|
| 3 |
|
| Os myn ymryson ag ef, nid etyb ef unwaith mewn mil. |
|
| 4 |
|
| Y mae'n ddoeth a chryf; pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus? |
|
| 5 |
|
| Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod, ac yn eu dymchwel yn ei lid. |
|
| 6 |
|
| Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, a chryna'i cholofnau. |
|
| 7 |
|
| Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio chodi, ac yn gosod sl ar y sr. |
|
| 8 |
|
| Taenodd y nefoedd ei hunan, a sathrodd grib y mr. |
|
| 9 |
|
| Creodd yr Arth ac Orion, Pleiades a chylch Sr y De. |
|
| 10 |
|
| Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, a rhyfeddodau dirifedi. |
|
| 11 |
|
| "Pan heibio imi, nis gwelaf, a diflanna heb i mi ddirnad. |
|
| 12 |
|
| Os cipia, pwy a'i rhwystra? Pwy a ddywed wrtho, 'Beth a wnei?'? |
|
| 13 |
|
| Ni thry Duw ei lid ymaith; ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed. |
|
| 14 |
|
| Pa faint llai yr atebwn i ef, a dadlau gair am air ag ef? |
|
| 15 |
|
| Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid, dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr. |
|
| 16 |
|
| Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb, ni chredwn y gwrandawai arnaf. |
|
| 17 |
|
| Canys heb reswm y mae'n fy nryllio, ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos. |
|
| 18 |
|
| Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl, ond y mae'n fy llenwi chwerwder. |
|
| 19 |
|
| "Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn? |
|
| 20 |
|
| Pe bawn gyfiawn, condemniai fi 'm geiriau fy hun; pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni. |
|
| 21 |
|
| Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun; yr wyf yn ffieiddio fy mywyd. |
|
| 22 |
|
| Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus. |
|
| 23 |
|
| Os dinistr a ladd yn ddisymwth, fe chwardd am drallod y diniwed. |
|
| 24 |
|
| Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus, fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr. Os nad ef, pwy yw? |
|
| 25 |
|
| "Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr; y maent yn diflannu heb weld daioni. |
|
| 26 |
|
| Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn, fel eryr yn disgyn ar gelain. |
|
| 27 |
|
| Os dywedaf, 'Anghofiaf fy nghwyn, newidiaf fy mhryd a byddaf lawen', |
|
| 28 |
|
| eto arswydaf rhag fy holl ofidiau; gwn na'm hystyri'n ddieuog. |
|
| 29 |
|
| A bwrw fy mod yn euog, pam y llafuriaf yn ofer? |
|
| 30 |
|
| Os ymolchaf sebon, a golchi fy nwylo soda, |
|
| 31 |
|
| yna tefli fi i'r ffos, a gwna fy nillad fi'n ffiaidd. |
|
| 32 |
|
| "Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb, ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio. |
|
| 33 |
|
| O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom, ac i osod ei law arnom ein dau, |
|
| 34 |
|
| fel y symudai ei wialen oddi arnaf, ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd! |
|
| 35 |
|
| Yna llefarwn yn eofn. Ond nid felly y caf fy hun. |
|
|
|
|