|
| 1 |
|
| Dyma Job yn ateb: |
|
| 2 |
|
| “Wrth gwrs, dw i'n gwybod fod hyn i gyd yn wir! Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw? |
|
| 3 |
|
| Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e, fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o'i gwestiynau! |
|
| 4 |
|
| Mae Duw mor ddoeth a grymus — Pwy sydd wedi ei herio a dod allan yn un darn? |
|
| 5 |
|
| Mae e'n symud mynyddoedd heb rybudd, ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig. |
|
| 6 |
|
| Mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, nes bod ei cholofnau'n crynu. |
|
| 7 |
|
| Mae'n rhoi gorchymyn i'r haul beidio tywynnu, ac yn cloi y sêr dan sêl. |
|
| 8 |
|
| Mae e'n lledu'r awyr, ac yn sathru tonnau'r môr. |
|
| 9 |
|
| Fe wnaeth yr Arth ac Orion, Pleiades a chlystyrau sêr y de. |
|
| 10 |
|
| Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif. |
|
| 11 |
|
| Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld; mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi. |
|
| 12 |
|
| Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio? Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’ |
|
| 13 |
|
| Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint; Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr. |
|
| 14 |
|
| Felly pa obaith sydd i mi ei ateb, a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn? |
|
| 15 |
|
| Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb, dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr. |
|
| 16 |
|
| Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs, allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i — |
|
| 17 |
|
| oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim, ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm. |
|
| 18 |
|
| Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt, dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw! |
|
| 19 |
|
| Os mai prawf cryfder ydy hyn — fe ydy'r Un cry! Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn — pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys? |
|
| 20 |
|
| Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i; Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog. |
|
| 21 |
|
| Dydw i ddim ar fai, ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi; dw i wedi cael llond bol ar fywyd! |
|
| 22 |
|
| ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud, ‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’ |
|
| 23 |
|
| Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn, mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog. |
|
| 24 |
|
| Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg, ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr. Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd? |
|
| 25 |
|
| Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr; yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd. |
|
| 26 |
|
| Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn, neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth. |
|
| 27 |
|
| Os dweda i, ‘Dw i'n mynd i stopio cwyno, dw i am wenu a bod yn hapus,’ |
|
| 28 |
|
| dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa. Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd! |
|
| 29 |
|
| Dw i'n cael fy nghyfri'n euog beth bynnag, felly beth ydy'r pwynt ymdrechu? |
|
| 30 |
|
| Petawn i'n ymolchi â sebon, ac yn sgwrio fy nwylo â soda, |
|
| 31 |
|
| byddet ti'n fy suddo mewn carthion nes bod hyd yn oed fy nillad yn ffiaidd i mi. |
|
| 32 |
|
| Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud, ‘Gad i ni fynd i gyfraith!’ |
|
| 33 |
|
| O na fyddai canolwr rhyngon ni, i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni! |
|
| 34 |
|
| Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen. |
|
| 35 |
|
| Byddwn i'n siarad yn agored wedyn, heb ofni; ond fel mae pethau, alla i ddim gwneud hynny. |
|
|
|
|