×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 100

1
1 Salm. I ddiolch.0 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
2
Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, dewch o'i flaen chn.
3
Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw; ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym, ei bobl a defaid ei borfa.
4
Dewch i mewn i'w byrth diolch, ac i'w gynteddau mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
5
Oherwydd da yw'r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau