×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 101

1
1 I Ddafydd. Salm.0 Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder; i ti, ARGLWYDD, y pynciaf gerdd.
2
Rhof sylw i'r ffordd berffaith; pa bryd y deui ataf? Rhodiaf chalon gywir ymysg fy nhylwyth;
3
ni osodaf fy llygaid ar ddim annheilwng. Cas gennyf yr un sy'n twyllo; nid oes a wnelwyf ddim ag ef.
4
Bydd y gwyrgam o galon yn troi oddi wrthyf, ac ni fyddaf yn cymdeithasu 'r drwg.
5
Pwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn ddirgel, rhof daw arno; y ffroenuchel a'r balch, ni allaf ei oddef.
6
Ond y mae fy llygaid ar ffyddloniaid y tir, iddynt gael trigo gyda mi; y sawl a rodia yn y ffordd berffaith a fydd yn fy ngwasanaethu.
7
Ni chaiff unrhyw un sy'n twyllo drigo yn fy nhu375?, nac unrhyw un sy'n dweud celwydd aros yn fy ngu373?ydd.
8
Fore ar l bore rhof daw ar holl rai drygionus y wlad, a thorraf ymaith o ddinas yr ARGLWYDD yr holl wneuthurwyr drygioni.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau