|
| 1 |
|
| 1 Gweddi'r gostyngedig, pan yw'n wan ac yn bwrw ei gu373?yn o flaen yr ARGLWYDD.0 ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a doed fy nghri atat. |
|
| 2 |
|
| Paid chuddio dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder; tro dy glust ataf, brysia i'm hateb yn y dydd y galwaf. |
|
| 3 |
|
| Oherwydd y mae fy nyddiau'n darfod fel mwg, a'm hesgyrn yn llosgi fel ffwrn. |
|
| 4 |
|
| Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt; yr wyf yn darfod o beidio bwyta. |
|
| 5 |
|
| Oherwydd su373?n fy ochneidio y mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd. |
|
| 6 |
|
| Yr wyf fel pelican mewn anialwch, ac fel tylluan mewn adfeilion. |
|
| 7 |
|
| Yr wyf yn methu cysgu, ac fel aderyn unig ar do. |
|
| 8 |
|
| Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser, a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith. |
|
| 9 |
|
| Yr wyf yn bwyta lludw fel bara, ac yn cymysgu fy niod dagrau, |
|
| 10 |
|
| o achos dy lid a'th ddigofaint, oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu. |
|
| 11 |
|
| Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd; yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn. |
|
| 12 |
|
| Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, a phery dy enw dros y cenedlaethau. |
|
| 13 |
|
| Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion; y mae'n adeg i dosturio wrthi, oherwydd fe ddaeth yr amser. |
|
| 14 |
|
| Y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch. |
|
| 15 |
|
| Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. |
|
| 16 |
|
| Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion, bydd yn ymddangos yn ei ogoniant; |
|
| 17 |
|
| bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig, ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad. |
|
| 18 |
|
| Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod, fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD: |
|
| 19 |
|
| ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd, i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear, |
|
| 20 |
|
| i wrando ocheneidiau carcharorion a rhyddhau'r rhai oedd i farw, |
|
| 21 |
|
| fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion, a'i foliant yn Jerwsalem, |
|
| 22 |
|
| pan fo pobloedd a theyrnasoedd yn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD. |
|
| 23 |
|
| Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith, ac wedi byrhau fy nyddiau. |
|
| 24 |
|
| Dywedaf, "O fy Nuw, paid 'm cymryd yng nghanol fy nyddiau, oherwydd y mae dy flynyddoedd di dros yr holl genedlaethau. |
|
| 25 |
|
| "Gynt fe osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo yw'r nefoedd. |
|
| 26 |
|
| Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros; y maent i gyd yn treulio fel dilledyn. Yr wyt yn eu newid fel gwisg, ac y maent yn diflannu; |
|
| 27 |
|
| ond yr wyt ti yr un, a'th flynyddoedd heb ddiwedd. |
|
| 28 |
|
| Bydd plant dy weision yn byw'n ddiogel, a'u disgynyddion yn sicr o'th flaen." |
|
|
|
|