|
| 1 |
|
| Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti; yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd, |
|
| 2 |
|
| a'th orchuddio goleuni fel mantell. Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell, |
|
| 3 |
|
| yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd, yn cymryd y cymylau'n gerbyd, yn marchogaeth ar adenydd y gwynt, |
|
| 4 |
|
| yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr, a'r fflamau tn yn weision. |
|
| 5 |
|
| Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini, fel na fydd yn symud byth bythoedd; |
|
| 6 |
|
| gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn, ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd. |
|
| 7 |
|
| Gan dy gerydd di fe ffoesant, gan su373?n dy daranau ciliasant draw, |
|
| 8 |
|
| a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd, i'r lle a bennaist ti iddynt; |
|
| 9 |
|
| rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi, rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear. |
|
| 10 |
|
| Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau, yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd; |
|
| 11 |
|
| rhnt ddiod i holl fwystfilod y maes, a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu; |
|
| 12 |
|
| y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl, ac yn trydar ymysg y canghennau. |
|
| 13 |
|
| Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas; digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth. |
|
| 14 |
|
| Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o'r ddaear, |
|
| 15 |
|
| a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio'u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau. |
|
| 16 |
|
| Digonir y coedydd cryfion, y cedrwydd Lebanon a blannwyd, |
|
| 17 |
|
| lle mae'r adar yn nythu, a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau. |
|
| 18 |
|
| Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr, ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod. |
|
| 19 |
|
| Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau, ac i'r haul wybod pryd i fachlud. |
|
| 20 |
|
| Trefnaist dywyllwch, fel bod nos, a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan, |
|
| 21 |
|
| gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth, ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw. |
|
| 22 |
|
| Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith, ac yn gorffwyso yn eu ffeuau. |
|
| 23 |
|
| A daw pobl allan i weithio, ac at eu llafur hyd yr hwyrnos. |
|
| 24 |
|
| Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid. |
|
| 25 |
|
| Dyma'r mr mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr. |
|
| 26 |
|
| Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo. |
|
| 27 |
|
| Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd. |
|
| 28 |
|
| Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd; pan agori dy law, cnt eu diwallu'n llwyr. |
|
| 29 |
|
| Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir; pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant, a dychwelyd i'r llwch. |
|
| 30 |
|
| Pan anfoni dy anadl, cnt eu creu, ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear. |
|
| 31 |
|
| Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth, a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd. |
|
| 32 |
|
| Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu; pan yw'n cyffwrdd 'r mynyddoedd, y maent yn mygu. |
|
| 33 |
|
| Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw, rhof foliant i Dduw tra byddaf. |
|
| 34 |
|
| Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo; yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD. |
|
| 35 |
|
| Bydded i'r pechaduriaid ddarfod o'r tir, ac na fydded y drygionus mwyach. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD. |
|
|
|
|