|
| 1 |
|
| Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd. |
|
| 2 |
|
| Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau. |
|
| 3 |
|
| Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd; llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD. |
|
| 4 |
|
| Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser. |
|
| 5 |
|
| Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd, |
|
| 6 |
|
| chwi ddisgynyddion Abraham, ei was, disgynyddion Jacob, ei etholedig. |
|
| 7 |
|
| Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear. |
|
| 8 |
|
| Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau, |
|
| 9 |
|
| sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac |
|
| 10 |
|
| yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, |
|
| 11 |
|
| a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth." |
|
| 12 |
|
| Pan oeddent yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad, |
|
| 13 |
|
| yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill, |
|
| 14 |
|
| ni adawodd i neb eu darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos, |
|
| 15 |
|
| a dweud, "Peidiwch chyffwrdd 'm heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi." |
|
| 16 |
|
| Pan alwodd am newyn dros y wlad, a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara, |
|
| 17 |
|
| yr oedd wedi anfon gu373?r o'u blaenau, Joseff, a werthwyd yn gaethwas. |
|
| 18 |
|
| Doluriwyd ei draed yn y cyffion, a rhoesant haearn am ei wddf, |
|
| 19 |
|
| nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir, ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir. |
|
| 20 |
|
| Anfonodd y brenin i'w ryddhau brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd; |
|
| 21 |
|
| gwnaeth ef yn feistr ar ei du375?, ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo, |
|
| 22 |
|
| i hyfforddi ei dywysogion yn l ei ddymuniad, ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid. |
|
| 23 |
|
| Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft, a Jacob i grwydro yn nhir Ham. |
|
| 24 |
|
| A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn, ac aethant yn gryfach na'u gelynion. |
|
| 25 |
|
| Trodd yntau eu calon i gasu ei bobl, ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision. |
|
| 26 |
|
| Yna anfonodd ei was Moses, ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis, |
|
| 27 |
|
| a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion a gwyrthiau yn nhir Ham. |
|
| 28 |
|
| Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll, eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau. |
|
| 29 |
|
| Trodd eu dyfroedd yn waed, a lladdodd eu pysgod. |
|
| 30 |
|
| Llanwyd eu tir llyffaint, hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd. |
|
| 31 |
|
| Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed a llau trwy'r holl wlad. |
|
| 32 |
|
| Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw, a mellt yn fflachio trwy eu gwlad. |
|
| 33 |
|
| Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd, a malurio'r coed trwy'r wlad. |
|
| 34 |
|
| Pan lefarodd ef, daeth locustiaid a lindys heb rifedi, |
|
| 35 |
|
| nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad, a difa holl gynnyrch y ddaear. |
|
| 36 |
|
| A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad, blaenffrwyth eu holl nerth. |
|
| 37 |
|
| Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur, ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau. |
|
| 38 |
|
| Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan, oherwydd bod arnynt eu hofn hwy. |
|
| 39 |
|
| Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio, a thn i oleuo iddynt yn y nos. |
|
| 40 |
|
| Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt, a digonodd hwy bara'r nefoedd. |
|
| 41 |
|
| Holltodd graig nes bod du373?r yn pistyllio, ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch. |
|
| 42 |
|
| Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd i Abraham ei was. |
|
| 43 |
|
| Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd, ei rai etholedig mewn gorfoledd. |
|
| 44 |
|
| Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd, a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd, |
|
| 45 |
|
| er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau, ac ufuddhau i'w gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD. |
|
|
|
|