|
| 1 |
|
| Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. |
|
| 2 |
|
| Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. |
|
| 3 |
|
| Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD. |
|
| 4 |
|
| Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. |
|
| 5 |
|
| Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; |
|
| 6 |
|
| Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. |
|
| 7 |
|
| Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. |
|
| 8 |
|
| Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: |
|
| 9 |
|
| Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac; |
|
| 10 |
|
| A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; |
|
| 11 |
|
| Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. |
|
| 12 |
|
| Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi: |
|
| 13 |
|
| Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o'r naill deyrnas at bobl arall: |
|
| 14 |
|
| Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o'u plegid; |
|
| 15 |
|
| Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. |
|
| 16 |
|
| Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. |
|
| 17 |
|
| Anfonodd ŵr o'u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. |
|
| 18 |
|
| Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: |
|
| 19 |
|
| Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr ARGLWYDD a'i profodd ef. |
|
| 20 |
|
| Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a'i rhyddhaodd ef. |
|
| 21 |
|
| Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: |
|
| 22 |
|
| I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid ef. |
|
| 23 |
|
| Aeth Israel hefyd i'r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham. |
|
| 24 |
|
| Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a'u gwnaeth yn gryfach na'u gwrthwynebwyr. |
|
| 25 |
|
| Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision. |
|
| 26 |
|
| Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai. |
|
| 27 |
|
| Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham. |
|
| 28 |
|
| Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef. |
|
| 29 |
|
| Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod. |
|
| 30 |
|
| Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd. |
|
| 31 |
|
| Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt. |
|
| 32 |
|
| Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir. |
|
| 33 |
|
| Trawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt. |
|
| 34 |
|
| Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif; |
|
| 35 |
|
| Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt. |
|
| 36 |
|
| Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt. |
|
| 37 |
|
| Ac a'u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. |
|
| 38 |
|
| Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. |
|
| 39 |
|
| Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. |
|
| 40 |
|
| Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a'u diwallodd â bara nefol. |
|
| 41 |
|
| Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. |
|
| 42 |
|
| Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. |
|
| 43 |
|
| Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. |
|
| 44 |
|
| Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. |
|
| 45 |
|
| Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD. |
|
|
|
|